Skip to content

Rheolau teithio i anifeiliaid anwes

Dolenni perthnasol

Mae'r gynddaredd yn glefyd feirysol yn y system nerfol a gall effeithio ar bob mamal gan gynnwys pobl.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Cath a ci
Gall cŵn, cathod a ffuredau anwes ddod i’r DU neu ddod yn ôl i’r DU heb gael eu rhoi mewn cwarantîn, cyn belled â’u bod yn bodloni’r rheolau cymwys.

Bydd y rheolau yn wahanol yn ôl y wlad y mae’r anifail yn dod yn ôl ohoni.

Y Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes yw’r system sy’n caniatáu i:

  • Gŵn, cathod a ffuredau anwes o rai gwledydd ddod i’r DU heb gael eu rhoi mewn cwarantîn cyn belled â’u bod yn bodloni’r rheolau.
  • Pobl yn y DU fynd â’u cŵn, eu cathod a’u ffuredau i wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd (UE) a rhai gwledydd nad ydynt yn rhan o’r UE, a dod â nhw’n ôl i’r DU heb fod angen eu rhoi mewn cwarantîn.

Nod y rheolau yw cadw’r gynddaredd a rhai clefydau eraill allan o’r DU.

O 1 Ionawr 2012:

  • Na roddir prawf gwaed i anifeiliaid anwes o Aelod-wladwriaethau eraill yr UE a thrydydd gwledydd rhestredig ac mai dim ond 21 diwrnod (yn hytrach na chwe mis) y bydd yn rhaid iddynt aros cyn eu symud gyntaf;
  • Caiff anifeiliaid anwes o drydydd gwledydd heb eu rhestru ddod i’r DU os byddant yn bodloni meini prawf penodol, sy’n wahanol i system blaenorol y DU (hyd at 31 Rhagfyr 2011) sy’n mynnu rhoi anifeiliaid mewn cwarantîn am chwe mis yn awtomatig;
  • Ni roddir triniaeth orfodol yn erbyn trogod bellach;
  • Caiff y cyfnod ar gyfer rhoi triniaeth rhag llyngyr rhuban ei ymestyn ac ni fydd angen ei rhoi i gathod bellach.

Rhaid i anifeiliaid na fyddant yn bodloni’r holl reolau gael mynd i gwarantîn. Mae’n bosibl y gellir eu rhyddhau’n gynnar os cydymffurfiant â’r gofynion teithio angenrheidiol ar gyfer anifeiliaid anwes.

Ymhlith y trydydd gwledydd sydd wedi’u rhestru mae’r rhai lle mae’r UE o’r farn bod risg y gynddaredd yn un fach iawn iawn (ee Awstralia, Seland Newydd) neu lle mae tystiolaeth gredadwy bod yna systemau effeithiol i reoli’r gynddaredd (ee UDA).

Trydydd gwledydd nad ydynt wedi’u rhestru yw’r rhai nad ydynt yn rhan o’r UE nac yn dod o dan y disgrifiad uchod. I weld pa wledydd sydd wedi’u rhestru a pha rai sydd heb eu rhestru, ewch i wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) (dolen allanol - Saesneg yn unig).