Skip to content

Y sector cyhoeddus

Dolenni perthnasol

Cafodd y ddogfen Uchafbwyntiau Gweithgareddau’r Sector ei chyhoeddi ym Medi 2011.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gynaliadwy.
Mae'r siarter hon yn galluogi sefydliadau i ddangos eu hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy.
Bws

Mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru’n cynnwys awdurdodau lleol, ysbytai a sefydliadau addysgol.

Gall y sector hwn ddylanwadu ar allyriadau y tu hwnt i allyriadau uniongyrchol o’u hadeiladau, yn y ffordd y maent yn darparu eu gwasanaethau, yn caffael a’u rôl yn arwain mewn cymunedau.

Mae’r sector cyhoeddus yn gyfrifol am gyfran gymharol fach o’r allyriadau a gynhwysir yn y targed o 3%, ond mae rôl allweddol iddo mewn arwain ar weithredu ar y newid yn yr hinsawdd.

Camau allweddol

Mae ein camau i leihau allyriadau yn y sector cyhoeddus yn cynnwys:

  • Gwneud newid yn yr hinsawdd yn rhan annatod o Strategaethau Cymunedol trwy ein canllawiau i awdurdodau lleol, a thrwy rannu arferion da;
  • Lleihau ôl troed carbon ein hystâd;
  • Lleihau ôl troed carbon gwasanaethau addysg ac iechyd; a
  • Chodi safonau perfformiad ynni mewn adeiladau sector cyhoeddus.

Ein dull ni o fynd ati i leihau allyriadau

Newid yn yr hinsawdd yw canlyniad amlycaf byw yn anghynaliadwy. Mae Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned, ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy, yn gosod datblygu cynaliadwy yng nghanol popeth a wnawn. Byddwn yn annog ac yn galluogi sefydliadau eraill yng Nghymru i wneud datblygu cynaliadwy’n rhan ganolog o’u sefydliad trwy ein Siarter Datblygu Cynaliadwy.

Fe wnaeth y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy gynhyrchu adroddiad ‘Cymru Carbon Isel: Blaenoriaethau Rhanbarthol i’w Gweithredu’ ym mis Tachwedd 2009, sy’n dangos sut y gall chwe rhanbarth Cynllun Gofodol Cymru chwarae rhan allweddol yn y trawsnewid i ddyfodol carbon isel a chynaliadwy. Cydnabyddir nad yw problemau ac atebion newid yn yr hinsawdd bob amser wedi eu cyfyngu i un awdurdod lleol neu ranbarth Cynllun Gofodol Cymru, a bod angen gweithredu ar draws ffiniau ac ar draws sectorau yn aml iawn.

Mae Tasgluoedd Rhanbarthau Carbon Isel wedi cael eu datblygu yn rhanbarthau De-orllewin Cymru a De-ddwyrain Cymru gyda’r ddwy ardal yn datblygu cynlluniau gweithredu.