Skip to content

Gwastraff

Dolenni perthnasol

Tuag at Ddyfodol Diwastraff yw dogfen strategaeth gwastraff bwysicaf Cymru. Fe’i cyhoeddwyd ym Mehefin 2010.
Pobl ifanc yn ailgylchu

Rydym wrthi’n datblygu mesurau i rwystro gwastraff, dargyfeirio gwastraff o dirlenwi trwy ailgylchu, compostio a threulio anaerobig, a lleihau allyriadau o safleoedd tirlenwi presennol ymhellach.

Mae’r sector gwastraff yn gyfrifol am lai na 5% o’r allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhwysir yn y targed o 3%. Er 1998, mae’r sector hwn wedi lleihau ychydig ar ei allyriadau uniongyrchol.

Camau allweddol

Mae ein camau i leihau allyriadau yn y sector gwastraff yn cynnwys:

  • Lleihau allyriadau o safleoedd tirlenwi;
  • Lleihau allyriadau anuniongyrchol sy’n gysylltiedig â threuliant adnoddau trwy gynyddu ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio; a
  • Gweithredu’n Strategaeth Wastraff a’n Cynlluniau Sector.

Ein dull ni o fynd ati i leihau allyriadau

Mae ein strategaeth wastraff, Tuag at Ddyfodol Diwastraff, yn nodi ein hamcanion polisi a’n targedau ar gyfer y cyfnod o 2010 i 2050. Mae lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr uniongyrchol ac anuniongyrchol o reoli gwastraff yn ffordd allweddol o weithredu Tuag at Ddyfodol Diwastraff.

Bydd y cynlluniau sector canlynol yn cael eu datblygu:

  • Gwastraff trefol a gesglir gan awdurdodau lleol;
  • Casglu, seilwaith a marchnadoedd;
  • Adeiladu a dymchwel; a
  • Manwerthu (gyda phwyslais ar wastraff bwyd a rhoi sylw manwl i ddeunydd pacio).

Bydd cynlluniau sector yn y dyfodol yn cynnwys y sector cyhoeddus ac amaethyddiaeth. Fe fydd cynllun sector a fydd yn rhoi sylw i weddill y sectorau gwastraff masnachol a diwydiannol yn ogystal.