Skip to content

Deall y bobl yr ydym am ymgysylltu â nhw

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rydym wedi cynnal astudiaeth i'n helpu i gael gwell dealltwriaeth o agweddau pobl at fyw mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Erbyn hyn, mae canlyniadau'r arolwg hwn ar gael i ni a phobl eraill eu defnyddio i gyfathrebu'n fwy effeithiol.

Siaradom yn fanwl â mwy na 1,500 o bobl ledled Cymru i gael gwybod beth sy'n bwysig iddynt, a beth yw eu harferion ar hyn o bryd.

Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar y newid yn yr hinsawdd, yn benodol:

  • Ynni;
  • Dŵr;
  • Gwastraff;
  • Trafnidiaeth.

Mae'r canlyniadau wedi nodi chwe grŵp ag agweddau cyffredin.

Rydym yn annog eraill i ddefnyddio'r model hwn wrth drafod arferion carbon isel a chynaliadwy. Bydd hynny'n ein helpu ni i gyd i deilwra ein trafodaethau'n fwy effeithiol i gyrraedd pob grŵp ac ymgysylltu â nhw mewn ffyrdd a fydd yn eu hysgogi.  

Mae'r arolwg hwn yn rhoi llinell sylfaen y gallwn ei defnyddio i asesu newidiadau mewn agweddau ac arferion yn y dyfodol.

Ceir crynodeb o'r adroddiad ymchwil ar waelod y dudalen hon. Os hoffech chi weld yr adroddiad ymchwil llawn, neu siarad â ni am sut i ddefnyddio'r model, anfonwch e-bost i: environmentalevidence@wales.gsi.gov.uk.