Skip to content

Sut mae Cymru yn ymbaratoi

Dolenni perthnasol

Mae llifogydd yn fater pwysig yng Nghymru ac yn fater y mae Llywodraeth Cymru yn ei gymryd yn ddifrifol iawn.
Cychod ym Masn Trefor yn yr eira.

Mae’n bwysig bod cymunedau a sefydliadau’n gwybod beth fydd yr effeithiau a’u bod yn gallu ac yn barod i wneud rhywbeth yn eu cylch. Rhaid i’r paratoi hwn ddigwydd ym mhob sector ac ar bob lefel.

Rhaid i Gymru baratoi at hinsawdd sy’n newid. 

Bydd cael pob sefydliad drwyddo draw i baratoi at y newid yn yr hinsawdd yn gwneud yn siwr bod penderfyniadau sy’n cael eu gwneud nawr yn ystyried effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Er enghraifft, wrth gynllunio seilwaith neu adeiladau newydd, mae angen inni ystyried effeithiau’r hinsawdd arnynt gydol eu hoes.