Skip to content

Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd

Dolenni perthnasol

Mae’r crynodeb hwn yn cynnig trosolwg o’r Strategaeth a’r Cynlluniau Cyflawni cysylltiedig.
Mae gennym darged i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 3% y flwyddyn yn y meysydd cymhwysedd sydd wedi’u datganoli.
Mae’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Ymaddasu yn disgrifio’r camau fydd yn cyflawni ein hamcanion o’n Fframwaith Ymaddasu
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn amlinellu sut y byddwn yn gweithredu i leihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr y mae Cymru’n eu cynhyrchu a sut y byddwn yn paratoi ar gyfer yr effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Mae’n Strategaeth yn rhoi ystyriaeth i’r canlynol:
  • y dystiolaeth wyddonol gyfredol ynghylch newid yn yr hinsawdd a’r effeithiau y gallem ddisgwyl eu gweld yng Nghymru a ledled y byd;
  • yr angen am weithredu ar frys i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac i baratoi ar gyfer effeithiau newid yn yr hinsawdd;
  • ein rôl ni wrth arwain a chefnogi gweithredu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, a rolau sefydliadau eraill wrth gymryd camau gweithredu;
  • sut mae’r Strategaeth yn cefnogi’n Cynllun Datblygu Cynaliadwy, ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’, a sut y bydd y ddau gyda’i gilydd yn helpu i wireddu’n gweledigaeth o Gymru yn y flwyddyn 2050; a’n
  • targed allweddol i dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr 3% y flwyddyn mewn meysydd sydd o dan ein rheolaeth.