Skip to content

Gweithredu rhyngwladol ar y newid yn yr hinsawdd

Dolenni perthnasol

Bydd y Gweinidog yn tynnu sylw at y modd y mae Cymru yn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd drwy bwysleisio dull strategol Cymru a’i chynnydd.
Gweithredu Tiriogaethol ar y Newid yn yr Hinsawdd

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i leihau allyriadau carbon ac i baratoi ar gyfer hinsawdd sy’n newid.

Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd

Gwelwyd cynnydd drwy Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd a’r cytundebau sy’n gysylltiedig â hynny.

Wrth gymryd y cyfrifoldeb dros leihau’r allyriadau, Protocol Kyoto oedd y cam cyntaf a wnaed gan y cenhedloedd datblygedig i gymryd cyfrifoldeb dros leihau allyriadau. Rydym wedi cefnogi pob ymdrech am fargen uchelgeisiol ag iddi rym cyfreithiol ar gyfer y dyfodol.

Doha

Cynhaliwyd Cynhadledd y Partïon 18 Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd yn Doha, Qatar, rhwng 28 Tachwedd a 8 Rhagfyr 2012. Yn ystod y gynhadledd, bu Gweinidog yr Amgylchedd yn:

  • cwrdd â chysylltiadau o bob cwr o’r Byd
  • cytuno ar gynllun partneriaeth gyda Llywodraeth Lesotho i’w cynorthwyo i lunio’u strategaeth eu hunain ar newid yn yr hinsawdd
  • cyfrannu at drafodaethau’r Undeb Ewropeaidd fel rhan o ddirprwyaeth y DU
  • siarad â Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy

Ewch i: Fframwaith Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Nid ydym yn credu y dylem aros am gytundeb rhyngwladol cyn gweithredu. Roedd Cymru yn un o’r arweinwyr yn y chwyldro diwydiannol. Bellach, rydym eisiau i Gymru fod ar flaen y gad yn y gwaith o leihau allyriadau carbon a pharatoi at y newid yn yr hinsawdd. Rydym eisiau dangos i wledydd eraill ei bod hi’n bosibl i greu cenedl carbon isel sy’n ffynnu a chanddi ansawdd bywyd da.

Mae gennym grynodeb o’n Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer ein partneriaid rhyngwladol. Mae hon yn esbonio’r camau yr ydym yn eu cymryd yma yng Nghymru.  

Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy (nrg4SD)

Mae Llywodraeth Cymru yn aelod brwd o Rwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy (nrg4SD). Credwn y gall y llywodraethau is-genedlaethol a rhanbarthol gynorthwyo’r gwaith o baratoi ar gyfer newid yn yr hinsawdd a delio â’r canlyniadau. Trwy gyd-gadeirio nrg4SD, rydym wedi helpu i arwain trafodaethau llwyddiannus i ynghylch hyn yng Nghytundebau Cancun 2010.

Ewch i: Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy (dolen allanol, yn Saesneg yn unig)

Cymru o blaid Affrica

Mae rhaglen Cymru o blaid Affrica yn cefnogi prosiectau sy’n cysylltu cymunedau yng Nghymru â chymunedau yn Affrica, fel rhan o’r ymdrechion i haneru tlodi’r byd erbyn 2015. Cafodd Cymru a Mbale, Uganda eu dewis gyfer Prosiect Gweithredu Tiriogaethol ar y Newid yn yr Hinsawdd fel rhan o Raglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig.

Mae’r prosiect yn defnyddio arbenigedd o Gymru i ddatblygu Cynllun Hinsawdd Tiriogaethol Integredig ar gyfer Mbale. Bydd hyn yn codi arian i helpu’r rhanbarth i baratoi at hinsawdd sy’n newid. Gwneir hyn trwy:

  • blannu coed cysgodi
  • dosbarthu poptai sy’n arbed ynni
  • technegau rheoli dŵr

Y Grŵp Hinsawdd

Rydym yn aelod brwd o’r Grŵp Hinsawdd. Grŵp annibynnol a dielw yw’r Grŵp Hinsawdd sy’n gweithio’n rhyngwladol gydag arweinwyr llywodraethau a busnesau. Maent yn gweithio i ddatblygu polisïau, technolegau a chyllid doeth i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a symud tuag at chwyldro diwydiannol glân.

Ewch i: Y Grŵp Hinsawdd (dolen allanol, yn Saesneg yn unig)