Mae a wnelo bioamrywiaeth â'r gwahanol rywogaethau sy'n rhan o'n hecosystemau.
Mae bioamrywiaeth yn bwysig oherwydd mae ansawdd y pridd, dwr, yr hinsawdd a systemau eraill sy'n cynnal bywyd yn dibynnu ar sut y mae grwpiau o rywogaethau a'u hamgylchedd yn rhyngweithio â'i gilydd.
Partneriaeth bioamrywiaeth Cymru - Aelodaeth newydd
Mae'r Bartneriaeth yn chwilio am aelodau newydd ar hyn o bryd fel rhan o'r gwaith o'i had-drefnu.
Y rôl
Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru (WBP) yn dod â'r rhai o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector gwirfoddol sy'n ymwneud â bioamrywiaeth at ei gilydd.
Mae strwythur presennol Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn cael ei ehangu i gynnwys tair lefel o weithgarwch:
- Grwp Llywio Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru (WBPSG) - y grwp arwain
- Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru (WBP) - y grwp ehangach, yr allwedd i lwyddiant
- Grwpiau Gorchwyl a Gorffen sy'n cynnwys aelodau o'r Grwp Llywio a'r Bartneriaeth ehangach.
Gofynnir i aelodau o'r Grwp Llywio a'r Bartneriaeth ehangach fod yn aelodau o grwpiau cyfeirio a mynychu sesiynau porth polisïau pan fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn adolygu neu'n datblygu strategaeth a pholisïau newydd.
Chwilir am amrywiaeth ehangach o bartneriaid ar hyn o bryd i ymuno â'r Grwp Llywio a'r bartneriaeth ehangach.
A oes gennych ddiddordeb?
Cwblhewch un ffurflen gais ar gyfer y grwp llywio a'r bartneriaeth ehangach. Bydd pob ymgeisydd aflwyddiannus ar gyfer y grwp llywio yn aros yn y bartneriaeth, fel ei bod yn bosibl iddynt ymuno â'r grwpiau Gorchwyl a Gorffen a hefyd ailymgeisio ar gyfer y grwp llywio pan fydd yr aelodaeth yn newid. Tymor o dair blynedd i ddechrau fydd aelodaeth y grwp llywio fel arfer.
Gellir gwneud cais i ymuno â'r bartneriaeth ar unrhyw adeg. Ewch i wefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.
Mae'r safle yn cynnwys gwybodaeth a chyfarwyddiadau pwysig ar ddyletswyddau bioamrywiaeth Deddf Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 gan gynnwys rhestr statudol organebau byw Llywodraeth y Cynulliad, a'r mathau o gynefinoedd o bwysigrwydd pennaf er mwyn gwarchod bioamrywiaeth yng Nghymru.
Ewch i: wefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru (dolen allanol)
Beth yw bio-amrywiaeth?
Daw diffiniad bio-amrywiaeth o Erthygl dau o'r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol:
Amrywioldeb ymhlith organeddau byw o bob ffynhonnell gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ecosystemau'r tir a'r môr ac ecosystemau dyfroedd eraill a'r cymhlygion ecolegol y maent yn rhan ohonynt'; mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o fewn rhywogaethau, rhwng rhywogaethau ac amrywiaeth ecosystemau.
Yn ychwanegol at y diffiniad manwl hwn, mae cadwraeth bio-amrywiaeth wedi dod yn ymadrodd defnyddiol ar gyfer y cwestiwn mwyaf cymhleth o bosibl o'r cyfan sy'n wynebu'r ddynoliaeth yn y dyfodol: sef, sut i ddiwallu anghenion poblogaeth ddynol gynyddol heb gyfaddawdu ar amrywiaeth a chyfoeth y planhigion a'r anifeiliaid a'u cynefinoedd.
Mae bio-amrywiaeth yn bwysig am fod hyfywedd a chynhyrchedd y pridd a'r dyfroedd, yr hinsawdd a systemau eraill sy'n cynnal bywyd yn dibynnu ar y cydadwaith rhwng grwpiau o rywogaethau a'u hamgylchedd.
Mae bio-amrywiaeth yn bwysig am fod hyfywedd a chynhyrchedd y pridd a'r dyfroedd, yr hinsawdd a systemau eraill sy'n cynnal bywyd yn dibynnu ar y cydadwaith rhwng grwpiau o rywogaethau a'u hamgylchedd.
Mae'r Cynulliad o dan ddyletswydd o dan adran 74 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 i roi sylw i gadwraeth bio-amrywiaeth wrth gyflawni ei swyddogaethau; ac mae'n ofynnol iddo gyhoeddi rhestr neu restrau o'r rhywogaethau a'r cynefinoedd sydd o'r pwysigrwydd pennaf ar gyfer cadw bio-amrywiaeth Cymru. Mae'n ddyletswydd ar y Cynulliad hefyd i gymryd camau sy'n rhesymol ymarferol i hybu cadwraeth y cynefinoedd a'r rhywogaethau ar y rhestr(au), ac i annog eraill i gymryd camau o'r fath.
Cynllun Gweithredu Bio-amrywiaeth y Deyrnas Unedig ac Adroddiad Bio-amrywiaeth y Mileniwm
Yn sgil ymrwymiadau a wnaed o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Biolegol y cytunwyd arno yn Uwch-gynhadledd y Ddaear a gynhaliwyd yn Rio de Janeiro ym 1992, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi llunio Cynllun Gweithredu Bio-amrywiaeth y DU. O fewn y fframwaith hwn, ceir cytundeb i hybu ymwybyddiaeth o fio-amrywiaeth ac i annog y cyhoedd i gymryd rhan. Mae cynlluniau gweithredu ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau wedi'u cynhyrchu hefyd er mwyn gwarchod rhai o'n rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid sy'n wynebu'r bygythiadau mwyaf.
Cafodd Sustaining the Variety of Life, "Adroddiad Bio-amrywiaeth y Mileniwm" gan Grwp Bio-amrywiaeth y DU, ynghylch y cynnydd gyda Chynllun Gweithredu Bio-amrywiaeth y DU, ei gyhoeddi ar 26 Mawrth 2001. Mae'r adroddiad yn edrych ar bum mlynedd o weithredu o blaid cadw bio-amrywiaeth ac yn asesu'r cynnydd ar y 436 o Gynlluniau Gweithredu ar gyfer y cynefinoedd a'r rhywogaethau sy'n wynebu'r bygythiadau mwyaf yn y DU. Mae'r adroddiad yn pwysleisio pum her barhaus, gan gynnwys yr angen i sicrhau bod Cynlluniau Gweithredu Bio-amrywiaeth Lleol yn cael eu datblygu a'u rhoi ar waith.
Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i bob gweinyddiaeth yn y DU.
Gwahoddodd y Gweinidog Bartneriaeth Bio-amrywiaeth Cymru (WBP) i roi cyngor i'r Cynulliad ar oblygiadau'r MBR ar gyfer gweithredu ar fio-amrywiaeth yng Nghymru yn y dyfodol. Ym mis Mai 2002, cyhoeddodd WBP eu cyngor i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar Adroddiad Mileniwm y DU. Ategodd WBP yr Adroddiad a chyflwyno nifer o argymhellion sydd wedi'u seilio ar yr egwyddorion allweddol ar gyfer gweithredu o blaid bio-amrywiaeth yng Nghymru:
- Partneriaeth - cynnwys yr amrediad o sectorau cyhoeddus, gwirfoddol, academaidd a busnes;
- Camau a thargedau - rhoi sylw i flaenoriaethau ar gyfer cadw bio-amrywiaeth drwy sefydlu camau clir, canlyniadau mesuradwy ac atebolrwydd;
- Integreiddio polisi - prif-ffrydio consýrn dros amrywiaeth bywyd yn natblygiad polisïau integredig, er mwyn gwrth-droi'r tueddiadau tuag at ostyngiad mewn bio-amrywiaeth fel rhan o ymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy;
- Gwybodaeth - seilio penderfyniadau ar wyddoniaeth a gwybodaeth gadarn a gweithio mewn ffyrdd arloesol i lenwi bylchau mewn gwybodaeth a dealltwriaeth; a
- Ymwybyddiaeth gyhoeddus - pwysleisio bod angen dal dychymyg y cyhoedd a sicrhau bod asedau naturiol Cymru'n cael eu gwerthfawrogi, a fydd yn effeithio ar y dewisiadau y mae pobl yn eu gwneud yn eu bywyd bob dydd.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am fio-amrywiaeth, gan gynnwys y cynnydd gyda chynlluniau gweithredu.
Ewch i: wefan Cynllun Gweithredu Bio-amrywiaeth y Deyrnas Unedig (dolen allanol, Saesneg yn unig)
Partneriaeth Bio-amrywiaeth Cymru
Mae Partneriaeth Bio-amrywiaeth Cymru (WBP), a sefydlwyd yn 1996, yn dod â phobl allweddol o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol at ei gilydd er mwyn hybu, monitro a chynghori Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch yr hyn y dylid ei wneud i gynnal a gwella bio-amrywiaeth yng Nghymru.
Partneriaeth Bio-amrywiaeth Cymru: Y Cylch Gwaith
Rôl Partneriaeth Bio-amrywiaeth Cymru (WBP) yw hybu, monitro a chynghori Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch yr hyn y dylid ei wneud i gynnal a gwella bio-amrywiaeth yng Nghymru. Yn benodol, bydd WBP yn gwneud y canlynol:
- ysgogi gweithredu a monitro'r cynnydd a wneir wrth roi Cynlluniau Gweithredu Rhywogaethau a Chynefinoedd ar waith;
- hybu arferion da wrth baratoi a gweithredu Cynlluniau Gweithredu Bio-amrywiaeth Lleol, a monitro'r cynnydd wrth gyflawni amcanion bio-amrywiaeth yn lleol;
- hybu ymwybyddiaeth o fio-amrywiaeth ac ymglymiad mewn bio-amrywiaeth, a monitro'r cynnydd;
- cadw golwg gyffredinol ar yr amrywiaeth o weithredu bio-amrywiaeth gan wahanol sectorau yng Nghymru ac asesu cyfraniad cyffredinol y gweithredu hwn at gynnal a gwella bio-amrywiaeth;
- ystyried sut y gellid hybu nawdd oddi wrth bartneriaid allweddol ar gyfer gweithgareddau bio-amrywiaeth yng Nghymru;
- cyflwyno adroddiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch y cynnydd wrth weithredu Cynllun Gweithredu Bio-amrywiaeth y DU yng Nghymru, adnabod y materion polisi allweddol, a chynghori ar y goblygiadau i strategaeth y dyfodol yng Nghymru;
- cysylltu â Grwp Bio-amrywiaeth y DU i gyflwyno adroddiadau ar y cynnydd a chynlluniau ar gyfer y dyfodol yng Nghymru ac i gydgysylltu ymagweddau at faterion cyffredin os yw hynny'n briodol.
Aelodaeth Partneriaeth Bio-amrywiaeth Cymru
Mae is-grwpiau WBP yn cynnwys Grwp Ymgynghorol Materion Lleol, o dan gadeiryddiaeth David Keast, Cyngor Sir Powys (yn cynrychioli Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru), sy'n cynghori ar gynhyrchu a gweithredu Cynlluniau Gweithredu Bio-amrywiaeth Lleol. Mae 24 o grwpiau wedi cyrraedd gwahanol gyfnodau yn y broses o gynhyrchu a gweithredu'r cynlluniau gweithredu lleol. Mae cynlluniau gweithredu lleol y De yn cael cymorth 2 grwp rhanbarthol (BAG Morgannwg a BAG Gwent Fwyaf). Mae'r grwpiau yng Nghymru yn cael cymorth WBP sydd wedi cyflogi hwylusydd ar gyfer y cynlluniau gweithredu lleol, Julia Korn (e-bost j.korn@ccw.gov.uk).
Mae'r safle yn cynnwys gwybodaeth a chyfarwyddiadau pwysig ar ddyletswyddau bioamrywiaeth Deddf Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 gan gynnwys rhestr statudol organebau byw Llywodraeth y Cynulliad, a'r mathau o gynefinoedd o bwysigrwydd pennaf er mwyn gwarchod bioamrywiaeth yng Nghymru.
Ewch i: wefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru (dolen allanol)
Rhestr o Rywogaethau o'r Pwysigrwydd Pennaf ar gyfer Cadwraeth Amrywiaeth Biolegol
Ar 28 Tachwedd 2002, cyhoeddodd Sue Essex AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd fod y Rhestr o Rywogaethau o'r Pwysigrwydd Pennaf ar gyfer Cadwraeth Amrywiaeth Biolegol wedi'i chyhoeddi.
Cafodd y Rhestr ei pharatoi o dan Adran 74 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CROW) 2000 yn sgil proses ymgynghori helaeth â Chyngor Cefn Gwlad Cymru, cynghorydd statudol y Cynulliad ar faterion cadwraeth natur, ac â phartneriaid perthnasol eraill.
Ewch i: wefan deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CROW) 2000 (dolen allanol, Saesneg yn unig)
Mae Adran 74 yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi sylw, wrth gyflawni ei swyddogaethau, cyn belled ag y bo'n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny yn briodol, i gadwraeth amrywiaeth biolegol yn unol â'r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol. Mae'n ofynnol i'r Cynulliad gymryd, neu annog eraill i gymryd, unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i hybu cadwraeth rhywogaethau'r cynefinoedd hynny.
Mae'r rhestr wedi'i seilio ar y rhestrau o rywogaethau a chynefinoedd a geir yng Nghynllun Gweithredu Bio-amrywiaeth y DU. Wrth i Fesur CROW fynd drwy'r Senedd, dywedodd y Gweinidog yn Llywodraeth y DU mai'r bwriad oedd i'r darpariaethau newydd ar fio-amrywiaeth gadw yn y statud yr ymagwedd bresennol at weithredu Cynllun Gweithredu Bio-amrywiaeth y DU 1994 (UKBAP) a'r adroddiad a gafwyd wedyn gan Grwp Llywio y DU. Er hynny, mae'n mynd ymhellach hefyd drwy gynnwys nifer o rywogaethau sydd o bryder yng Nghymru o safbwynt cadwraeth. I gael gweld y rhestr o Rywogaethau a Chynefinoedd Pwysig Iawn er mwyn Gwarchod Amrywiaeth Fiolegol.
Natur Cymru - Cylchgrawn wedi'i neilltuo yn arbennig i hyrwyddo bioamrywiaeth yng Nghymru.
Ewch i: wefan Natur Cymru (dolen allanol)
Mae Gweithgor Iaith Gymraeg y Sector Amgylcheddol yn awyddus i feithrin a hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg ar draws y sector amgylcheddol.
Ewch i: wefan Gweithgor Iaith Gymraeg y Sector Amgylcheddol (dolen allanol)