Skip to content

Confensiwn ramsar

Mae Confensiwn Ramsar ar Wlyptiroedd yn gytuniad rhyngwladol sy’n cynnig y fframwaith ar gyfer cydweithredu cenedlaethol a rhyngwladol i gadw gwlyptiroedd a’u hadnoddau, a’u defnyddio’n ddoeth.

Mae Confensiwn Ramsar ar Wlyptiroedd yn gytuniad rhyngwladol sy’n cynnig y fframwaith ar gyfer cydweithredu cenedlaethol a rhyngwladol i gadw gwlyptiroedd a’u hadnoddau, a’u defnyddio’n ddoeth.

Cafodd y "Confensiwn ar Wlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol yn Enwedig fel Cynefin i Adar Dwr" ei lofnodi yn Ramsar, Iran ar 2 Chwefror 1971 a’i ddiwygio drwy gyfrwng Protocol Paris ar 3 Rhagfyr 1982. Cafodd y Confensiwn ei lofnodi gan Lywodraeth y DU ym 1973 a’i gadarnhau gan y Senedd ym 1976.

Mae’n ofynnol i’r partïon sydd wedi llofnodi’r Confensiwn ddynodi gwlyptiroedd addas o fewn eu tiriogaeth i’w cynnwys yn y Rhestr o Wlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol (y rhestr).

Dylai’r ardaloedd gael eu dethol ar sail eu hecoleg, eu botaneg, eu swoleg, eu limnoleg (astudiaeth ar ffenomenau llynnoedd), a’u hydroleg. Yr oedd rhaid i un safle o leiaf fod wedi’i ddynodi ar gyfer y Rhestr adeg cadarnhau’r Confensiwn ond caiff y partïon sydd wedi llofnodi’r Confensiwn ychwanegu at y rhestr wedyn neu ymestyn ffiniau gwlyptir sydd ar y Rhestr yn barod. Ar ben hynny, mae gan y partïon sydd wedi llofnodi’r Confensiwn hawl i ddileu neu i gyfyngu ffiniau gwlyptiroedd sydd ar y Rhestr yn barod ar sail eu "buddiannau cenedlaethol uniongyrchol" (Erthygl 2). Os bydd parti sydd wedi llofnodi’r Confensiwn yn dileu’r cyfan neu ran o safle sydd wedi’u rhestru, dylent wneud iawn am y golled cyn belled ag y gellir drwy wneud darpariaeth arall (Erthygl 4).

Cafodd y meini prawf ar gyfer adnabod gwlyptiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol eu cytuno mewn cyfarfod o’r partïon sydd wedi llofnodi’r Confensiwn ym Montreau ym 1990.

Ar hyn o bryd, mae 10 safle RAMSAR yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth am Gonfensiwn RAMSAR ar gael oddi wrth Swyddfa RAMSAR.

Ewch i: wefan y Cydbwyllgor Gwarchod Natur: safle RAMSAR yng Nghymru (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)

Gallwch weld Adroddiad Cenedlaethol diweddaraf y DU ynghylch RAMSAR hefyd ar wefan y Cydbwyllgor Gwarchod Natur.

Ewch i: wefan  y Cydbwyllgor Gwarchod Natur: Adroddiad Cenedlaethol diweddaraf y DU (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)