Skip to content

Ardaloedd arbennig cadwraeth

Y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur sy’n argymell Ardaloedd Cadwraeth Arbennig i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae’r argymhellion hyn yn dilyn ymgynghoriad ar lefel genedlaethol a lleol gan y sefydliadau canlynol:

  • Asiantaethau Cadwraeth Natur (Cyngor Cefn Gwlad Cymru, English Nature a Scottish Natural Heritage);
  • y Gwasanaeth Amgylchedd a Threftadaeth yng Ngogledd Iwerddon.

Ewch i’r Rhestr o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig sydd ar wefan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)

Aber Afon Dyfrdwy a Môr Hafren

Ar 10 Rhagfyr 2009, cafodd Môr Hafren ac Aber Afon Dyfrdwy eu dynodi’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd. Ar yr un diwrnod, cafodd rhannau Lloegr y safleoedd hyn eu dynodi’n Ardaloedd Cadwraeth gan Weinidog y wlad honno. O hyn ymlaen felly, bydd y safleoedd hyn yn cael eu gwarchod o dan Reoliadau Cynefinoedd 1994.