Skip to content

Safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig

safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig
Mae Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) yn ddarn o dir sydd wedi’i hysbysu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau y bernir eu bod o bwysigrwydd arbennig.

Mae Safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SSSI) yn cael eu gwarchod er mwyn diogelu’r asedau pwysig hyn er lles y genhedlaeth bresennol a’r cenedlaethau sydd i ddod. Adeg ysgrifennu hyn, mae dros 1,000 o SSSI yng Nghymru, sef bron 11 y cant o arwynebedd y tir.

Mae SSSI yn cael eu hysbysu gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (CCW), sy’n dethol safleoedd i’w dynodi ar sail meini prawf gwyddonol sydd wedi hen ennill eu plwyf (ac a gyhoeddir gan y Cydbwyllgor Gwarchod Natur). Mae rhai SSSI hefyd yn cael eu cydnabod fel rhai sydd o bwysigrwydd rhyngwladol ac maent wedi’u dosbarthu yn Ardaloedd Gwarchod Arbennig (SPAs) o dan y Gyfarwyddeb Adar, wedi’u rhestru fel safleoedd Ramsar o dan Gonfensiwn Ramsar ar Wlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol, neu wedi’u cynnig fel ymgeiswyr am statws Ardaloedd Arbennig Cadwraeth (SACs) o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd y CE.

Nid diwedd y broses yw hysbysu SSSI. Mae angen cynnal rheolaeth dda a phartneriaeth ffrwythlon rhwng CCW a rheolwr y tir yn y tymor hirach, a hynny er mwyn gwarchod y nodweddion y mae’r safle wedi’i ddethol o’u herwydd.

Cafodd Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ei diwygio gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 i gryfhau gwarchodaeth a rheolaeth SSSI. Mae’r darpariaethau allweddol yn cynnwys:

  • Pŵer i CCW wrthod caniatáu gweithgareddau ar SoDdGA
  • Pŵer i CCW lunio cynlluniau rheoli ar gyfer SSSI drwy ymgynghori â rheolwyr y tir, ac i orfodi’r cynlluniau hynny o dan amgylchiadau penodol
  • Hawliau i apelio at y Cynulliad yn erbyn camau penodol a gymerir gan CCW mewn perthynas â SSSI
  • Dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus i hybu cadwraeth SSSI a’u gwella, ac i ymgynghori ag CCW cyn gwneud neu gymeradwyo gwaith sy’n debygol o niweidio nodweddion SSSI
  • Mesurau i roi sylw i weithgareddau trydydd partïon sy’n niweidio SSSI
  • Cosbau uwch am dramgwyddau sy’n ymwneud â SSSI.

Daeth Rheoliadau sy’n llywodraethu gweithdrefnau’r Cynulliad ar gyfer trafod apelau sy’n ymwneud â SSSI i rym ar 31 Gorffennaf 2002.