Skip to content

Rheoli Ceirw Gwyllt yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys wybodaeth am ein strategaeth ar gyfer coedtiroedd yng Nghymru, gan gynnwys y bedair them allweddol, a ddolenni i'n cynllun gweithredu a pholisi coedwigaeth.
Mae'r adran yma yn cynnwys wybodaeth am les a iechyd da byw ac anifeiliaid anwes.
hydd brith

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion ein strategaeth am rheoli ceirw gwyllt yng Nghymru, ein gweledigaeth a chynllun gweithredu.

Cyhoeddwyd Rheoli Ceirw Gwyllt yng Nghymru, ein strategaeth ar gyfer ceirw, ym mis Chwefror 2011. Mae'n pennu ein nodau ac amcanion ar gyfer rheoli ceirw'n gynaliadwy yng Nghymru - yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Datblygwyd y strategaeth ganddom, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Phartneriaeth Menter Ceirw.

Mae'r strategaeth yn cefnogi ein gweledigaeth bod "Cymru yn elwa ar ei phoblogaeth o geirw gwyllt mewn cydbwysedd â'r amgylchedd naturiol, cymdeithasol ac economaidd." Mae'r strategaeth yn cydnabod y byddai'n anoddach cyflawni sawl un o'r amcanion yn strategaeth Coetiroedd i Gymru a'r amcanion ar gyfer amaethyddiaeth a'r amgylchedd naturiol pe byddai cynnydd ym mhoblogaeth y ceirw. Serch hynny, dylem atgyfnerthu pa mor werthfawr yw'r carw gwyllt yn ein treftadaeth naturiol a sicrhau bod unrhyw gamau rheoli gofynnol yn gynaliadwy ac yn cael eu gwneud mewn ffyrdd diogel, tirion ac effeithiol.

Mae'n rhaid llunio strategaeth oherwydd:

  • Ceirw a'u heffeithiau yng Nghymru
  • Ein ymrwymiadau rhyngwladol at fioamrywiaeth
  • Ein polisïau a blaenoriaethau gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â'r amgylchedd, bioamrywiaeth ac amaethyddiaeth
  • Coetiroedd i Gymru: Ein Strategaeth ar gyfer Coetiroedd a Choed.

Wrth ddatblygu'r strategaeth cynhyrchwyd papur materion a gwahoddwyd sylwadau rhanddeiliaid. Cynhwyswyd ymateb y rhanddeiliaid yn y strategaeth a gyhoeddwyd. Mae'r ddogfennau hon ar gael ar tudalennau Rheoli Ceirw Gwyllt yng Nghymru wefan Comisiwn Coedwigaeth Cymru (dolen allanol).

Cynllun Gweithredu

Cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Cymru 2011-2016 ar gyfer rheoli ceirw gwyllt ym mis rhagfyr 2011 ac mae'n amlinellu'r hyn sydd angen ei wneud dros y pum mlynedd nesaf i gyflawni nodau'r strategaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am reoli ceirw gwyllt yng Nghymru, cysylltwch â'r Comisiwn Coedwigaeth Cymru: fcwenquiries@forestry.gsi.gov.uk.
 
Cewch hefyd ffonio Comisiwn Coedwigaeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth ar 03000 680300.