Skip to content

Trwyddedau bywyd gwyllt

Dolenni perthnasol

Ymgynghoriad ar gynnig i gyflwyno gwaharddiad ar saethu Gwyddau Talcen-wyn er mwyn amddiffyn rhywogaeth sydd mewn perygl.

Mae'r tudalennau hyn yn rhoi cyngor ac arweiniad ar y broses o roi trwyddedau bywyd gwyllt yng Nghymru.

Ers 1 Ebrill 2013, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (dolen allanol) wedi bod yn gwneud gwaith Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru ac Asiantaeth Amgylchedd Cymru. Hefyd, Cyfoeth Naturiol Cymru yn awr sy’n gyfrifol am drwyddedau rhywogaethau a warchodir o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad a deddfwriaeth Ewropeaidd.

Cafodd y corff newydd ei greu er mwyn gwella gwasanaethau a gwneud pethau’n haws i gwsmeriaid, cyflenwyr a phartneriaid.

Cyfoeth Naturiol Cymru sydd bellach yn rhoi trwyddedau diogelu rhywogaethau o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Rheoliadau Cynefinoedd 2010 (trwyddedau rhywogaethau a warchodir gan Ewrop). Y ni fydd yn parhau i roi trwyddedau moch daear o dan Adran 10(2) a (3) o Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992.    

Os ydych chi eisoes yn berchen ar drwydded ac mae’n dod i ben ar ôl 1 Ebrill 2013, bydd statws cyfreithiol a’r telerau sy’n gysylltiedig â’r drwydded yn aros yr un fath. Rydym wedi trosglwyddo’r wybodaeth sydd gennym am y drwydded i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Natural England sy’n ymdrin â thrwyddedau bywyd gwyllt yn Lloegr. I gael mwy o wybodaeth amdanynt, ewch i’w gwefan.

Ewch i: wefan Natural England (dolen allanol, Saesneg yn unig)