Skip to content

Mynediad i'r cefn gwlad a'r arfordir

Dolenni perthnasol

Mae cerdded a beicio ymhlith blaenoriaethau rhai o bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer creu system drafnidiaeth integredig a chynaliadwy.
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i annog mwy o bobl i gerdded a beicio'n fwy diogel ac yn fwy aml.
Arwydd llwybr cyhoeddus

Mae gan y cyhoedd ac ymwelwyr yr hawl i gerdded dros 20% o arwynebedd tir Cymru.

Mae hyn yn cynnwys 360,000 hectar o dir agored a thir comin cofrestredig, a 100,000 hectar o dir y Comisiwn Coedwigaeth. Mae’r tir hwn ym mhob cwr o Gymru ac mae rhywfaint ohono o fewn y Parciau Cenedlaethol.

Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CROW) 2000

Mae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn caniatáu i’r cyhoedd gael mynediad i gefn gwlad ar droed, ac mae’n diwygio’r gyfraith ar yr hawliau tramwy cyhoeddus sy’n berthnasol i gefn gwlad. Daeth i rym yng Nghymru ar 28 Mai 2005. Mae’r holl dir agored a’r tir comin cofrestredig wedi’i fapio yng Nghymru gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC). Ceir mwy o wybodaeth am hyn ar eu gwefan.

Ewch i: wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (dolen allanol)

Ewch i: Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (dolen allanol)

Gallwn greu is-ddeddfau ar hawliau tramwy, ac mae’r rhain yn cynnwys:

  • Rhan I Tir Mynediad (gan gynnwys mapiau);
  • Rhan II Hawliau Tramwy;
  • Rhan III Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig;
  • Rhan IV Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol;
  • Rhan V Fforymau Mynediad Lleol.

Cerdded a beicio

Mae cerdded a beicio yn ffyrdd ardderchog o sicrhau mynediad i’n hamgylchedd naturiol. Maent hefyd yn cynnig trafnidiaeth sy’n rhad, yn iach ac yn eco gyfeillgar. Mae’n llwybrau troed a’n llwybrau beicio yn asedau pwysig.

Yn 2009, lansiwyd Cynllun Gweithredu Cerdded a Beicio 2009-2013. Mae’n annog mwy o gerdded a beicio fel bod pobl yn defnyddio’u ceir yn llai aml. Mae’r cynllun yn cynnwys targedau i gynyddu cerdded a beicio ymhlith plant ac oedolion.

Mynediad i’r arfordir a Llwybr Arfordir Cymru

Mae ein Rhaglen Gwella Mynediad i’r Arfordir (CAIP) yn ceisio gwella’r hawliau tramwy presennol ar hyd yr arfordir a chreu llwybrau newydd. Cwblhawyd Llwybr Arfordir Cymru ac fe’i hagorwyd ar 5 Mai 2012.

Lle mae hyn yn ymarferol mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau y gall pawb ddefnyddio’r llwybr, yn cynnwys beicwyr, pobl anabl a marchogwyr.

Mynediad i ddŵr

Caiff cronfa Sblash ei rheoli gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Mae’n darparu cyllid i wella mynediad diogel a chyfrifol i ddŵr ac ar yr un pryd yn ystyried anghenion yr amgylchedd a gwahanol grwpiau o bobl.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr uchod i gyd drwy ddilyn y dolenni ar y chwith.