Skip to content

Ardaloedd Gwarchodedig Morol

Ardaloedd Gwarchodedig Morol

Mae ardaloedd morol gwarchodedig yn cyfeirio at unrhyw ardal warchodedig yn yr amgylchedd morol sy'n cael ei chydnabod a'i rheoli at ddibenion gwarchod natur

Yng Nghymru mae gennym nifer o fathau o Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy'n rhoi gwahanol lefelau gwarchod:

  • Safleoedd morol Ewropeaidd (Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig);
  • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gyda nodweddion rhynglanwol ac islanwol;
  • Safleoedd Ramsar gydag elfennau morol;
  • Gwarchodfeydd Natur Morol;
  • Parthau Cadwraeth Morol
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur.

Ewch i: wefan Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Llyfryn sy'n dangos y mathau gwahanol o Ardaloedd Morol a Warchodir

Lluniwyd y ddogfen hon gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Mae'n rhoi gwybodaeth am y gwahanol Ardaloedd Morol a Warchodir sy'n cael eu creu i warchod yr amgylchedd naturiol.

Ewch i: mathau gwahanol o Ardaloedd Gwarchodedig Morol: Gwefan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (dolen allanol, Saesneg yn unig, pdf)