Skip to content

Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol

Nod y gyfarwyddeb hon yw diogelu'r amgylchedd morol ledled Ewrop.

Mae’r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau gymryd camau i ennill neu gynnal Statws Amgylcheddol Da ar gyfer eu moroedd erbyn 2020.

Mae hyn yn golygu:

  • amddiffyn yr amgylchedd morol
  • atal unrhyw ddirywiad
  • ei adfer lle bo’n ymarferol
  • defnyddio adnoddau morol mewn ffordd gynaliadwy.
Bu Gweinyddiaethau'r DU yn ymgynghori ar reoliadau drafft megis Cyfarwyddeb y Strategaeth Forol er mwyn ei gwneud yn rhan o gyfraith y DU. Bellach, mae ymateb y Llywodraeth wedi cael ei gyhoeddi. Gellir dod o hyd iddo, â’r Asesiad Effaith terfynol, ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (dolen allanol, Saesneg yn unig).  

Mae Asesiad Cychwynnol terfynol y DU a nodweddion a thargedau Statws Amgylcheddol Da (GES), a fydd gyda’i gilydd yn llunio Rhan Un o Strategaeth Forol y DU, wedi cael eu cyhoeddi a’u cyflwyno i’r Comisiwn.

Rheoliadau Strategaeth Forol 2010

Mae cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol yn rhan o gyfraith y DU. Daeth Rheoliadau Strategaeth Forol 2010 i rym ar 15 Gorffennaf 2010.

Y camau nesaf

Byddwn yn cynnal ymgyngoriadau yn y dyfodol ar y canlynol:

  • cynigion ar gyfer rhaglenni monitro’r DU ar gyfer GES (Hydref 2013)
  • rhaglenni y DU o fesurau ar gyfer ennill GES (Hydref 2014).
Os oes gennych chi gwestiynau, e-bostiwch marine@cymru.gsi.gov.uk.