Skip to content

Cymru Fyw

Dolenni perthnasol

Corff newydd yw Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn dylanwadu ar sut yr ydym ni a phobl eraill yn rheoli, yn mwynhau ac yn defnyddio adnoddau naturiol Cymru er budd y bobl, yr economi a bywyd gwyllt.
cefn gwlad

Rydym wedi datblygu ffordd newydd o reoli ein hamgylchedd a'n hadnoddau naturiol.

Y rheswm dros wneud hyn yw bod newidiadau yn ein cymdeithas yn effeithio ar ein hadnoddau naturiol – ein haer, ein dŵr, ein tirweddau a’n bywyd gwyllt.

Gweithiodd Rhaglen Cymru Fyw ar y ffordd newydd hon rhwng 2010 a 2013.

Canolbwyntiodd y rhaglen hon ar ddau brif faes:

  • sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn y dyfodol er mwyn gwrthbwyso'r holl ofynion yr ydym yn eu rhoi ar ein hadnoddau naturiol. Mae hyn yn cynnwys ystyried gofynion ar yr economi, yr amgylchedd a phobl a chymunedau. Rydym yn galw hyn yn ‘Rheoli Adnoddau Naturiol

  • sefydlu Un Corff newydd a elwir yn Cyfoeth Naturiol Cymru (dolen allanol) a fydd yn ymgymryd â gwaith Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Daeth Cyfoeth Naturiol Cymru i rym ar 1 Ebrill 2013.