Skip to content

Asesiad Amgylcheddol Strategol yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyfarwyddyd cyffredinol ar sut i gydymffurfio â'r Gyfarwyddeb wrth asesu cynllun neu raglen.

Canllawiau Asesiadau Amgylcheddol Strategol

Mae Canllawiau Ymarferol i'r Gyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol Strategol, islawr, (a gyhoeddwyd gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Gweithrediaeth yr Alban ac Adran yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon) yn cynnig cyfarwyddyd cyffredinol ar sut i gydymffurfio â'r Gyfarwyddeb wrth asesu cynllun neu raglen sy'n dod o fewn cwmpas y Gyfarwyddeb.

Dylid darllen y Canllawiau ar y cyd â'r Gyfarwyddeb a Rheoliadau Cymru. Ceir trosolwg o brif dasgau a chamau'r Asesiad Amgylcheddol Strategol am Adran 5, tudalen 26.

Crynodeb o'r Asesiad Amgylcheddol Strategol yng Nghymru

Natur y Rheoliadau

  • Mae'r Rheoliadau a wnaed gan y Cynulliad yn gweithredu gofynion y Gyfarwyddeb mor uniongyrchol â phosibl.
  • Maent yn rhai generig, sydd yr un mor berthnasol i'r holl gynlluniau a'r rhaglenni o fewn cwmpas y Gyfarwyddeb (h.y. nid ydym yn gwneud rheoliadau penodol i'r pwnc).
  • Maent yn gymwys i gynlluniau a rhaglenni sy'n effeithio ar bob rhan neu ran o Gymru, ond nid i unrhyw ran arall o'r DU.
  • Ymdrinnir â chynlluniau a rhaglenni sy'n effeithio ar rannau eraill o'r DU yn ogystal ag ar Gymru yn Reoliadau'r DU, sy'n pennu gofynion tebyg iawn.

Cwmpas y Rheoliadau: Pa Gynlluniau a Rhaglenni sy'n destun Asesiad Amgylcheddol Strategol?

Mae'r Rheoliadau yn ymwneud â chynlluniau neu raglenni:

  • Sy'n cael eu paratoi gan awdurdodau ("awdurdodau cyfrifol" yn ôl diffiniad Rheoliadau Cymru) ar gyfer amaethyddiaeth, coedwigaeth, pysgodfeydd, ynni, diwydiant, trafnidiaeth, rheoli gwastraff, rheoli dwr, twristiaeth, cynllunio gwlad a thref neu ddefnydd o dir
  • Sy'n gosod y fframwaith ar gyfer caniatadau datblygu yn y dyfodol
  • Sy'n ofynnol gan ddarpariaeth ddeddfwriaethol, reoliadol neu weinyddol ac sydd naill ai'n amodol ar gael eu paratoi a/neu eu mabwysiadu ar lefel genedlaethol, ranbarthol, leol neu'n cael eu paratoi gan awdurdod at ddiben eu mabwysiadu drwy weithdrefn ddeddfwriaethol (h.y. Deddf Seneddol neu Reoliadau).

Yn ogystal, mae'n ofynnol cynnal Asesiad Amgylcheddol Strategol o gynllun neu raglen y mae'n ofynnol eu hasesu o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Bydd cynllun neu raglen o fath sy'n ddarostyngedig i'r Gyfarwyddeb ond sy'n penderfynu defnydd ardal fechan, neu sy'n fân addasiad i gynllun neu raglen, yn ddarostyngedig i'r Gyfarwyddeb os yw'n debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol.

Mae'r Canllawiau Ymarferol yn cynnwys rhestr ddangosol o gynlluniau a rhaglenni - Atodiad 1, tudalen 44 y penderfynwyd eu bod yn ddarostyngedig i'r Gyfarwyddeb, ynghyd â siart lif - tudalen 13 i helpu awdurdodau cyfrifol i benderfynu a oes angen Cyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol Strategol ar gyfer cynllun neu raglen. Pan fo amheuaeth ynghylch a yw'r Gyfarwyddeb yn berthnasol, bydd yn rhaid i Awdurdodau Cyfrifol wneud eu penderfyniad eu hunain ar sail telerau'r Rheoliadau.

Beth sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau?

Rhaid i awdurdod cyfrifol:

  • Os oes angen penderfynu a yw unrhyw gynllun neu raglen yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau ac a oes angen asesiad amgylcheddol
  • Sicrhau (os yw) bod asesiad amgylcheddol yn cael ei gynnal a bod Adroddiad Amgylcheddol yn cael ei baratoi, sy'n ymdrin â'r cynigion yn y cynllun neu'r rhaglen a'r dewisiadau realistig eraill
  • Ymgynghori â'r 'Cyrff Ymgynghori', sef Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Cadw (Cyfarwyddiaeth yn Llywodraeth Cynulliad Cymru), ar gwmpas yr Adroddiad Amgylcheddol
  • Ymgynghori â'r cyrff hynny ac â'r cyhoedd ynghylch y cynllun neu'r rhaglen a'r Adroddiad Amgylcheddol
  • Ystyried yr Adroddiad Amgylcheddol a'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyn mabwysiadau'r cynllun neu'r rhaglen
  • Cyhoeddi gwybodaeth am y broses o fabwysiadu'r cynllun neu'r rhaglen, gan gynnwys sut y mae'r Adroddiad Amgylcheddol a'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi'u cymryd i ystyriaeth
  •  Monitro'r effeithiau amgylcheddol o weithredu'r cynllun neu'r rhaglen.

Dylid integreiddio'r Asesiad Amgylcheddol Strategol yn llawn i'r broses o wneud y cynllun neu'r rhaglen o'r cychwyn ac ar ôl bob cam o'r broses gwneud penderfyniadau. Dylid hefyd ei ddefnyddio wrth ddatblygu'r trefniadau ar gyfer monitro'r broses o weithredu'r cynllun, er mwyn nodi'r problemau a llywio'r diwygiad neu'r newid nesaf.

Beth y mae'n rhaid i'r Adroddiad Amgylcheddol ymdrin ag ef?

Rhaid i'r Adroddiad Amgylcheddol gynnwys gwybodaeth y caiff yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol, gan ystyried y wybodaeth gyfredol a'r dulliau asesu, ynghyd â'r cynnwys a lefel y manylion yn y cynllun neu'r rhaglen.

Mae'r wybodaeth i'w darparu yn cynnwys:

  • Effeithiau sylweddol tebygol y cynllun neu'r rhaglen, a'r dewisiadau eraill sydd wedi'u hystyried, ar yr amgylchedd, gan gynnwys ar fioamrywiaeth, poblogaeth, iechyd dynol, ffawna, fflora, pridd, dwr, awyr, ffactorau hinsoddol, asedau materol, y dreftadaeth ddiwylliannol gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archeolegol, tirlun a'r gydberthynas rhwng y ffactorau uchod. Dylai'r effeithiau hyn gynnwys effeithiau eilaidd, cronnol, synergyddol, effeithiau byr, canolig a hirdymor, effeithiau parhaol a thros dro, effeithiau cadarnhaol a negyddol."
  • Amlinelliad o'r rhesymau dros ddethol y dewisiadau eraill yr ymdrinnir â hwy.
  • Y mesurau a ragwelir i atal, lleihau ac os yw'n bosibl i wrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd yn sgil gweithredu'r cynllun neu'r rhaglen.

Ble y gellir cael y data amgylcheddol?

Mae'r Canllawiau Ymarferol i'r Asesiad Amgylcheddol Strategol yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer nifer o ffynonellau o wybodaeth amgylcheddol berthnasol. Gellir defnyddio amryfal ffynonellau eraill i gael gwybodaeth amgylcheddol gan ddibynnu ar y math o gynllun neu raglen sy'n cael eu hasesu. Dylid cymryd i ystyriaeth gyfyngiadau posibl y data (e.e pa mor ddibynnol a dilys yw). Ceir cyswllt i'r awgrymiadau ar gyfer ffynonellau o wybodaeth sylfaenol am Atodiad 4, tudalen 52.

Beth yw'r gofynion o ran ymgynghori?

Rhaid i'r awdurdod cyfrifol ymgynghori â'r cyrff ymgynghori ar gwmpas yr adroddiad amgylcheddol.

Pan fydd yr adroddiad wedi'i gwblhau, rhaid i'r awdurdod ymgynghori â'r cyrff hynny, ac â'r cyhoedd, ar y cynllun neu'r rhaglen a'r adroddiad amgylcheddol. Mae'r "cyhoedd" yn cynnwys pobl a sefydliadau y mae'r cynllun neu'r rhaglen yn debygol o effeithio arnynt, neu y mae ganddynt fuddiant yn y cynllun neu'r rhaglen dan sylw, gan gynnwys cyrff perthnasol yn y sector gwirfoddol. Fel arfer, ymgynghorir â chyrff cyhoeddus eraill hefyd.

Pan fydd cynllun neu raglen yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn aelod-wladwriaeth arall o'r Undeb Ewropeaidd, rhaid ymgynghori â'r wladwriaeth honno hefyd.

Ar ôl ymgynghori ac ar ôl gwneud penderfyniad ynghylch y cynllun neu'r rhaglen, rhaid i'r awdurdod roi gwybodaeth i'r ymgynghoreion.

Ceir mwy o wybodaeth am rôl yr awdurdodau cyfrifol a'u dyletswyddau o ran ymgynghori am Adran 3, tudalen 16.

Y Cyrff Ymgynghori

Yng Nghymru, y Cyrff Ymgynghori Dynodedig ar gyfer yr Asesiad Amgylcheddol Strategol yw:

Mae'r tri Chorff Ymgynghori yng Nghymru wedi cytuno ar gytundeb lefel gwasanaeth sydd i'w weld isod, Gwasanaethau a Safonau Cyrff Ymgynghori ar gyfer Awdurdodau Cyfrifol yng Nghymru.

Sut i fonitro effeithiau gweithredu'r cynllun neu'r rhaglen

Mae monitro effeithiau amgylcheddol (Atodiad 10, tudalen 86) yn sgil mabwysiadu'r cynllun neu'r rhaglen yn ofynnol o dan y Gyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol Strategol. Mae'n caniatáu i effeithiau andwyol na ragwelwyd hwy gael eu canfod a, lle y bo angen, i gamau gael eu cymryd i adfer y sefyllfa. Mae'r broses fonitro hefyd yn cyfrannu at wybodaeth sylfaenol ar gyfer cynlluniau neu rhaglenni yn y dyfodol.