Mae'n cefnogi ein hymrwymiadau i leihau'r newid yn yr hinsawdd, helpu i ddileu tlodi tanwydd a rhoi hwb i ddatblygu economi Cymru ac adfywio'r wlad.
Sefydlwyd y rhaglen yn 2009 i sicrhau manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd i Gymru a chydgysylltu buddsoddi mewn perfformiad ynni cartrefi yng Nghymru.
Cam un
Cam un prosiect arbed oedd y rhaglen fwyaf o'i math yn y DU. Rydyn ni wedi buddsoddi £36.6m yng ngham cyntaf arbed ac wedi gweithio gyda darparwyr tai cymdeithasol i sicrhau bod cymunedau ardaloedd difreintiedig Cymru yn defnyddio ynni'n well. Gwnaethpwyd hyn drwy ailwampio cartrefi gan gymryd camau fel insiwleiddio waliau solet, a gosod paneli solar a phympiau gwres.
Codwyd £32 miliwn ychwanegol drwy bortffolio cam un arbed o 28 prosiect. Mae hyn yn gyfwerth â buddsoddiad o oddeutu £68 miliwn.
Cafodd dros £20 miliwn o hyn ei fuddsoddi gan ddarparwyr tai cymdeithasol ac awdurdodau lleol. Elwon nhw ar arbedion cost ac arbedion maint a gynigiwyd gan gynlluniau arbed i alinio eu cyllidebau neu'u dwyn ymlaen ar gyfer gwaith cynnal a chadw, adnewyddu tai a rhoi cymorth i gymdogaethau. Diolch i'r buddsoddiad hwn mae nifer o gamau wedi'u cymryd i sicrhau bod cartrefi'n defnyddio ynni'n well gan gynnwys:
- uwchraddio a newid boeleri;
- newid ffenestri;
- estyn toeau;
- gwaith strwythurol;
- cyngor ar arbed ynni.
Cafwyd buddsoddiad ychwanegol o £10 miliwn gan gwmnïau ynni drwy eu Targed Lleihau Allyriadau Carbon a’r Rhaglen Arbedion Ynni Cymunedol.
Ariannodd cam un rhaglen arbed gamau i wella dros 7500 o gartrefi yng Nghymru:
- Mae waliau solet dros 4000 o gartrefi cymdeithasol a phreifat wedi'u hinsiwleiddio. Roedd cost y gwaith hwn ar gyfartaledd yn llai na chyfradd arferol y farchnad oherwydd yr arbedion maint o gynlluniau ardal a'r cyllid a godwyd.
- Mae dros 1800 o baneli solar ffotofoltäig wedi'u gosod ar gyfer tai cymdeithasol ac mae llawer o'r landlordiaid cymdeithasol partner yn bwriadu ariannu rhagor o fesurau a manteisio ar dariffau cyflenwi trydan.
- Mae systemau solar wedi'u gosod i gynhesu dŵr ar gyfer 1080 o gartrefi gan gynnwys nifer o gynlluniau tai lloches.
- Diolch i arbed mae tua 1000 eiddo yn gallu cael tanwydd rhatach a charbon is. Llwyddwyd i wneud hyn drwy gyfrannu at gostau newid o wres glo neu drydan i foeleri nwy hynod effeithlon.
- Gosodwyd pympiau gwres mewn mwy na 100 o gartrefi nad ydynt yn rhan o'r rhwydwaith nwy.
Rhoddodd arbed un gymorth i ddatblygu cadwyni cyflenwi leol ar gyfer technolegau a mesurau rhad ar ynni.
- Mae 41 o'r 51 o osodwyr a oedd yn ymwneud â mesurau arbed yn gwneud eu holl waith neu'r rhan fwyaf ohono yng Nghymru. Roedd nifer o'r cwmnïau eraill yn cyflogi llawer o weithwyr yng Nghymru.
- Cafodd wyth gosodwr eu hachredu i osod ynni adnewyddadwy fel rhan o raglen arbed.
- Yng Nghymru y gweithgynhyrchwyd 5 o'r 17 o'r cynhyrchion a oedd yn gymwys am gyllid arbed.
Cam dau
Dechreuodd ail gam rhaglen arbed ym mis Mai 2012 ac fe’i ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF).
Hyd at £45 miliwn fydd ar gael ar gyfer y prosiect ERDF ail gam arbed, ar gyfer Ardaloedd Cydgyfeirio a Chystadleurwydd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys £33 miliwn o arian ERDF a £12 miliwn o arian cyfatebol gennym ni.
Amcanion cyffredinol buddsoddi ym mhrosiect ERDF ail gam arbed yw:
- sicrhau bod o leiaf 4800 o gartrefi yng Nghymru yn defnyddio ynni'n fwy effeithlon erbyn diwedd 2015;
- lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 2.54 KTC (cilotunnelli o garbon deuocsid) o leiaf erbyn diwedd 2015.
Bydd rhaglen arbed yn parhau i roi hwb i economïau lleol drwy ddefnyddio busnesau lleol i weithgynhyrchu, cyflenwi a gosod cymaint â phosibl o’r mesurau a chreu cyfleoedd o ran hyfforddiant a swyddi ar gyfer gweithwyr lleol.
Bydd rhaglen arbed hefyd yn helpu i ddileu tlodi tanwydd, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwneud cartrefi yng Nghymru yn rhatach ar ynni.
Dros y tair blynedd nesaf, nod rhaglen ERDF ail gam arbed yw gweithredu rhwng 10 ac 20 o gynlluniau ledled Cymru bob blwyddyn o'r prosiect – caiff cyfanswm o dua 50 o gynlluniau eu gweithredu.
Bydd ail gam rhaglen arbed yn cael ei gyflwyno gan 2 reolwr cynllun caffael OJEU (Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd). Bydd Willmott and Dixon yn cyflwyno’r cynlluniau yn y Gogledd a’r Canolbarth, gyda Melyn cyflwyno’r cynlluniau yn y De.
Prosiectau eraill
Yn ychwanegol at gam 2, mae nifer o gyfleoedd eraill am arian wedi dod i’r amlwg
Ym mis Mehefin 2012, darparwyd £2 miliwn gennym i fanteisio ar gamau olaf y Rhaglen Arbed Ynni Cymunedol (CESP) ac i wneud y mwyaf o fuddsoddiad y cwmnïau ynni mewn tai yng Nghymru. Daeth CESP i ben ym mis Rhagfyr 2012. Bellach mae cynllun o’r enw Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO) wedi cymryd ei le
Mae’r arian hwn wedi’n galluogi i roi grantiau i awdurdodau lleol i gefnogi prosiectau i wneud tai’n fwy effeithlon o ran ynni. Diolch i’r arian hwn, rydym yn disgwyl y bydd yn sbarduno £5 miliwn yn ychwanegol o fuddsoddiad gan gwmnïau ynni, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai. Bydd hyn yn helpu i wneud dros 1000 o gartrefi yng Nghymru yn fwy effeithlon o ran ynni, trwy insiwleiddio waliau allanol, systemau gwresogi well ac ati.
Ym mis Ionawr 2013, rhoddwyd £2.15 miliwn i Raglen Arbed i helpu â’r broses o newid o CESP i ECO. Roedd hyn wedi’i anelu at roi help i’r rheini sy’n gosod ac sydd wedi gweld lleihad sylweddol mewn gwaith ar ôl i CESP ddod i ben. Gwahoddwyd awdurdodau lleol i wneud cais am grantiau i gefnogi prosiectau sy’n cael arian gan ECO. Rydym yn disgwyl y bydd yr arian hwn yn rhoi cymorth i 804 o dai yng Nghymru, gan sbarduno £2 miliwn yn fwy o wariant.
Ym mis Chwefror 2013, darparwyd £2.3 miliwn gennym yn ychwanegol i’r rhaglen Arbed. Bydd yr arian hwn yn darparu grantiau i greu rhwydwaith o Dai Arddangos y Fargen Werdd/Cynlluniau’r Fargen Werdd. Defnyddir y tai hyn i ddangos esiamplau o’r gwelliannau y gellir eu gwneud yn y cartref i arbed ynni o dan gynlluniau fel y Fargen Werdd, Nyth ac ECO. Anelir y grantiau at Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
Y dyfodol
Dros y deng mlynedd nesaf, byddwn yn denu buddsoddiadau o'r ffynonellau canlynol hefyd:
- Nyth – ein cynllun tlodi tanwydd sy'n seiliedig ar alw;
- Safon Ansawdd Tai Cymru;
- Tariffau Cyflenwi Trydan;
- Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy;
- y Fargen Werdd;
- y Ddeddf Ynni;
- Rhwymedigaethau cyflenwyr ynni.
Disgwylir i oddeutu £1 biliwn gael ei fuddsoddi i wella perfformiad ynni cartrefi Cymru. Mae'r sector hwn yn llafurddwys ac felly mae'n creu swyddi medrus i bobl leol.
Ein partneriaid
Ymhlith partneriaid arbed mae:
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru;
- Cartrefi Cymunedol Cymru;
- yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni;
- y Sefydliad Ymchwil Adeiladu.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch rhaglen arbed, anfonwch e-bost atom ni yn arbed@wales.gsi.gov.uk.