Skip to content

Gwybodaeth ar gyfer busnesau

Arbed yw ein cynllun Llywodraeth Cymru sy’n gweithredu o fewn ardaloedd penodol y mae modd ei ddefnyddio i ailwampio cartrefi a gosod mesurau ynni effeithiol a thechnolegau adnewyddadwy.

Nod y rhaglen yw gwneud y canlynol:

  • lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr;
  • lleihau'r effaith a gaiff tlodi tanwydd ar aelwydydd Cymru;
  • creu swyddi gwyrdd a chyfleoedd busnes yng Nghymru.

Nod arbed yw rhoi cyfleoedd busnes a chyflogaeth i fusnesau bach a chanolig Cymru.

Mae fframwaith o weithgynhyrchwyr a gosodwyr wedi’i sefydlu ar gyfer dwy flynedd gyntaf y prosiect ym meysydd inswleiddio waliau solet, boeleri, dyfeisiau rheoli gwres a nwyddau microgynhyrchu.

Bydd ymarfer caffael pellach i fusnesau wneud cais i ymuno â’r fframwaith tua mis Medi 2013 i roi mwy o gyfleoedd i fusnesau bach a chanolig lleol.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, e-bostiwch arbed@cymru.gsi.gov.uk.