Skip to content

Swyddi Gwyrdd

Dolenni perthnasol

Mae'r strategaeth hon yn cyflawni'r ymrwymiad a wnaed yn rhaglen Cymru'n Un ar gyfer llywodraethu Cymru ac yn amlinellu'r awgrymiadau i gyfeirio'r trawsnewid i economi fwy cynaliadwy.
Dyma ein fforwm i ddod â chwmnïau sy’n gweithio ym maes gosod offer ynni adnewyddadwy ynghyd.
Nod y canllaw yw i roi opsiynau i brynwyr ar uchafu'r cyfleoedd drwy caffael i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.
Mae tai cymdeithasol yn cael eu darparu gan landlordiaid cymdeithasol ac mae’r rhent yn is na’r hyn y gellid disgwyl ei dalu petai’r eiddo yn cael ei rentu’n breifat.

Bydd y rhaglen arbed yn creu swyddi a chyfleoedd hyfforddi yng Nghymru mewn sector llafurddwys.

Gweithiodd cam un y rhaglen arbed gyda darparwyr tai cymdeithasol i helpu cwmnïau yng Nghymru sy’n gweithio yn y maes hwn (y gadwyn gyflenwi) gyda’n buddsoddiad. Roedd y gwaith hwnnw’n cynnwys:

  • mynd i sesiynau ‘cwrdd-â’r-prynwr’ cyn i brosiectau ddechrau. Trefnodd Adeiladu Cymru dri digwyddiad, gyda darparwyr tai cymdeithasol yn eu mynychu ynghyd â thros 100 o fusnesau;
  • gofalu bod recriwtio a hyfforddiant wedi’u targedu yn rhan ganolog o bob contract, gan ddefnyddio’r pecyn ‘Gallu Gwneud’;
  • darparu 156 o wythnosau o hyfforddiant am bob £1m sy’n cael ei wario;
  • cael hyd i hyfforddiant a swyddi trwy gynlluniau fel JobMatch;
  • helpu contractwyr lleol i ennill cymwysterau/achrediadau (e.e. Cynllun Ardystio Microgynhyrchu) lle bo gofyn;
  • mynd i’r digwyddiadau dysgu rydym yn eu trefnu gyda’n partneriaid Arbed – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (EST) a’r Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE).

Bydd ail gam rhaglen arbed yn cael ei gyflwyno gan ddau reolwr cynllun sydd wedi’u caffael a bydd yr ail gam yn adeiladu ar lwyddiant y cam cyntaf.

Y nod yw cryfhau’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru trwy ffordd newydd a chydlynus, a bydd yn:

  • cydlynu’r buddsoddiad yng nghartrefi ac adeiladau Cymru;
  • sicrhau bod y broses gaffael yn dod â buddiannau economaidd go iawn i Gymru;
  • cryfhau cadwyn gyflenwi Cymru a’i sylfaen sgiliau;
  • cynnal prosiectau arbed ynni ac ynni adnewyddadwy llwyddiannus.

Busnesau a gweithwyr Cymru fydd yn gwireddu ein huchelgais o wneud cartrefi ac adeiladau Cymru’n fwy gwyrdd, gan ddefnyddio cynnyrch sydd wedi’u gwneud neu eu rhoi at ei gilydd yng Nghymru. Efallai bydd gennym gyfle hefyd i allforio sgiliau, gwybodaeth a chynnyrch Cymru y tu allan i Gymru.