Skip to content

Cynllun Cenedlaethol Effeithlonrwydd ac Arbed Ynni

Dolenni perthnasol

Rydym ar fin cyhoeddi Strategaeth Tlodi Tanwydd ddiwygiedig a fydd yn amlinellu sut rydym am ddileu tlodi tanwydd.
Mae'r strategaeth hon yn cyflawni'r ymrwymiad a wnaed yn rhaglen Cymru'n Un ar gyfer llywodraethu Cymru ac yn amlinellu'r awgrymiadau i gyfeirio'r trawsnewid i economi fwy cynaliadwy.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
clawr: Cynllun Cenedlaethol Effeithlonrwydd ac Arbed Ynni
Mae’r cynllun hwn yn canolbwyntio ar yr hyn yr ydym yn ei wneud i leihau tlodi tanwydd, lleihau allyriadau a chynyddu’r defnydd effeithlon o ynni.

Bydd y camau gweithredu yn helpu:

  • i leihau tlodi tanwydd a helpu i roi ein Strategaeth Tlodi Tanwydd ar waith;
  • i leihau allyriadau nwy tŷ gwydr a helpu i roi ein Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd ar waith;
  • i greu swyddi a chyfleoedd busnes a chefnogi ein Strategaeth Swyddi Gwyrdd;
  • i wella perfformiad adeiladau yng Nghymru o ran eu defnydd o ynni, i wella ansawdd y stoc adeiladau a chwtogi ar gostau ynni;
  • i adfywio cymunedau drwy wella adeiladau a thrwy greu swyddi a chyfleoedd busnes a fydd yn arwain at gymunedau mwy cydlynol a mwy cynaliadwy;
  • i lywio ein polisi ynni Cymru: Chwyldro Carbon Isel;
  • i roi’r gallu i bobl, sefydliadau a busnesau leihau’r lefelau ynni maen nhw’n eu defnyddio a bod yn fwy effeithiol o ran yr ynni maen nhw’n ei ddefnyddio a’u hannog i wneud hynny;
  • i sicrhau bod adnoddau yn cael eu defnyddio’n decach o fewn ein cymdeithas.