Skip to content

Ynni adnewyddadwy

Dolenni perthnasol

Taflenni ar gyfer deiliaid tai, cymunedau a busnesau ar faterion cynllunio wrth ystyried gosod technolegau ynni adnewyddadwy bach a lleol.
Diben y Cyfarwyddyd hwn yw helpu awdurdodau cynllunio lleol i benderfynu ar geisiadau i gynnal datblygiadau ynni adnewyddadwy a charbon isel.
Cynlluniau Peilot Ynni yn Sir Ddinbych
panel solar

Mae technolegau adnewyddadwy yn defnyddio ynni’r gwynt, llanw, tonnau, deunyddiau planhigion, llystyfiant neu wastraff ffermio fel tanwydd neu ffynhonnell ynni.

Mae ein polisi ynni, Ynni Cymru: Newid Carbon Isel, yn nodi’r modd y bydd Cymru yn symud o ddefnyddio ynni tanwydd ffosil i ddefnyddio cymysgedd ehangach o ffynonellau ynni, a’r rheini ar y cyfan yn rhai adnewyddadwy neu’n garbon isel.  

Pan fyddwn yn defnyddio ynni, caiff carbon deuocsid (CO2) ei ryddhau. Nwy tŷ gwydr yw CO2. Wrth i ni fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, rydym eisiau lleihau’r allyriadau CO2 yng Nghymru. Am hynny, rydym yn ceisio defnyddio mwy o ffynonellau adnewyddadwy a charbon isel i gynhyrchu ein hynni.

Mae gan Gymru llawer o ffynonellau ynni naturiol. Mae Ynni Cymru yn esbonio’r modd y byddwn yn gwneud y gorau o’n ynni i:

  • greu economi cynaliadwy, carbon isel i Gymru
  • cefnogi ein cymunedau a’n hamgylchedd
  • wynebu’r heriau a ddaw yn sgil newid yn yr hinsawdd
  • sicrhau bod digon o ynni i gynnal ein ffordd o fyw (sicrwydd ynni)

Rydym am weld mwy o ynni yn cael ei gynhyrchu drwy ddefnyddio technolegau carbon isel. Bydd hyn yn ein helpu i leihau’n raddol cyfanswm y CO2 yr ydym yn ei ryddhau.

Ffynonellau ynni carbon isel eraill

Wrth i Gymru symud at ddyfodol carbon isel, bydd nwy yn danwydd pwysig. Mae’n danwydd ffosil ond mae’n rhyddhau llai o CO2 nag olew a glo. Er hynny, nid oes modd dibynnu ar nwy nes bydd technoleg gael i ddal a storio’r carbon sy’n cael ei ryddhau, gan sicrhau nad yw’n mynd i mewn i’r atmosffer.

Mae ynni niwclear hefyd yn dechnoleg carbon isel.