Skip to content

Ein polisïau

Dolenni perthnasol

Y ffordd y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru leihau'r ynni a ddefnyddir ledled Cymru.
Mae'r strategaeth hon yn cyflawni'r ymrwymiad a wnaed yn rhaglen Cymru'n Un ar gyfer llywodraethu Cymru ac yn amlinellu'r awgrymiadau i gyfeirio'r trawsnewid i economi fwy cynaliadwy.
dynion yn cario panel solar
Roedd Cymru unwaith yn arweinydd byd ym maes ynni seiliedig ar garbon.  Ein nod bellach yw gwneud yr un peth yn achos ynni carbon isel. Mae hon yn agenda lawn her ond yn un gyffrous a hanfodol. Byddwn yn gweithio gyda phob sector ac ar draws pob un o’n cyfrifoldebau o fewn fframwaith datblygu cynaliadwy i wireddu’r agenda.

Mae ein Datganiad Polisi Ynni, Chwyldro Carbon Isel, yn adeiladu ar ganlyniadau ein hymgynghoriadau ar Fap Trywydd Ynni Adnewyddadwy a Chynllun Gweithredu Bio-ynni i Gymru.

Mae’n manteisio ar waith:

  • Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Cymru;
  • y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni;
  • y Strategaeth Swyddi Gwyrdd;
  • adroddiad Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar yr Economi a Thrafnidiaeth ar “Y Sector Ynni”.

Mae’r datganiad hefyd yn adlewyrchu safle polisi’r DU, gwaith Comisiwn Newid yn yr Hinsawdd y DU a Datganiadau Polisi Cenedlaethol y DU ar Ynni ac Ynni Adnewyddadwy.

Coedwigaeth ac ynni adnewyddadwy

Mae'r Comisiwn Coedwigaeth yn ein helpu i daro'n targedau ar gyfer ynni adnewyddadwy.

Ewch: wefan y Comisiwn Coedwigaeth (dolen allanol)