Skip to content

Ansawdd aer

Dolenni perthnasol

Rydyn ni’n rhoi cyllid i 14 prosiect sy’n canolbwyntio ar wella ansawdd yr aer, sŵn amgylcheddol a mannau gwyrdd tawel mewn ardaloedd trefol.

Mae ansawdd aer yn ffordd o fesur pa mor dda yw’r aer o’n hamgylch. Mae’n cael ei fesur yn ôl faint a pha fath o lygryddion sydd ynddo.

Mae aer wedi’i lygru os yw’n cynnwys sylweddau a all gael effaith niweidiol ar iechyd pobl a’r amgylchedd. Gall ansawdd aer gwael effeithio ar iechyd pobl, anifeiliaid a phlanhigion.

Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol, Asiantaeth yr Amgylchedd, y diwydiant a rhanddeiliaid eraill i amddiffyn a gwella ansawdd aer yng Nghymru.

Dolenni Defnyddiol

Fforwm Ansawdd Aer Cymru

Cewch y wybodaeth ganlynol ar wefan Fforwm Ansawdd Aer Cymru:

  • gwybodaeth am ansawdd aer;
  • y llygryddion sy’n cael eu mesur;
  • yr effaith ar yr amgylchedd; a 
  • sut mae ansawdd aer yn cael ei fonitro  

Ewch i: wefan Fforwm Ansawdd Aer Cymru (dolen allanol)

Archif Ansawdd Aer y DU (UK Air Quality Archive)

Mae’r archif hwn yn cynnwys gwybodaeth am achosion ac effaith llygredd. Mae’n cynnwys bwletin rhagolygon, crynodebau 24 awr ac erthyglau.

Ewch i: wefan Archif Ansawdd Aer y DU (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn gweithio i reoli ansawdd aer ledled y DU.

Cewch fwy o wybodaeth am y canlynol ar eu gwefan:

  • Strategaeth Ansawdd Aer y DU;
  • Deddfwriaeth yr UE a Rhyngwladol;
  • rheoli ansawdd aer lleol;
  • paneli, grwpiau a ffora ar lygredd aer diwydiannol;
  • rheoliadau;
  • cyhoeddiadau; a 
  • gwyddoniaeth ac ymchwil.

Ewch i: wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig - Ansawdd Aer (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn uno swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Mae hefyd wedi cymryd rhywfaint o’n swyddogaethau ni. Bydd yn gweithio i sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru’n cael eu cynnal, eu gwella a’u defnyddio mewn ffordd gynaliadwy, heddiw ac yn y dyfodol.

Ewch i: wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (dolen allanol)

Ansawdd aer yn Lloegr

Un o brif amcanion Asiantaeth yr Amgylchedd yw amddiffyn a gwella’r amgylchedd a hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Mae’r asiantaeth yn ganolog i’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau amgylcheddol llywodraeth ganolog drwy ei gwaith a’i swyddogaethau.

Cewch fwy o wybodaeth am y canlynol ar ei gwefan:

  • monitro simneiau, staciau a ffliwiau diwydiannol;
  • monitro allyriadau o simneiau a ffliwiau gan ddefnyddio labordai achrededig a staff ardystiedig;
  • monitro ansawdd aer yr amgylchedd;
  • cyfarpar cludadwy ar gyfer monitro allyriadau; ac
  • Uned Modelu ac Asesu Ansawdd Aer (AQMAU).

Ewch i: wefan Asiantaeth yr Amgylchedd (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Ansawdd aer yn yr Alban

Mae’r Scottish Environment Protection Agency (SEPA) yn gweithio i ddeall a gwella ansawdd aer yn yr Alban. Mae’n rheoleiddio a monitro gweithgareddau diwydiannol penodol yn yr Alban a all greu llygredd sy’n cael ei ledu yn yr aer yn lleol. Mae gwaith yr asiantaeth yn cynnwys gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill a’u cyfarwyddo er mwyn rheoli a gwella ansawdd aer. Gall hefyd ddarparu cyngor ar bolisi ac ar weithredu i lywodraeth, y diwydiant a’r cyhoedd ar reoli llygredd a materion amgylcheddol eraill.

Mae hefyd yn gweithio tuag at gyflawni amcanion a thargedau’r Alban a’r DU i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd fyd-eang a llygryddion sy’n croesi ffiniau.

Ewch i: wefan Ansawdd Aer yn yr Alban (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Ansawdd aer yng Ngogledd Iwerddon

Northern Ireland Air yw’r wefan ar gyfer ansawdd aer yng Ngogledd Iwerddon. Mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am ansawdd aer, monitro, lefelau llygredd a materion sy’n gysylltiedig ag ansawdd aer.

Ewch i: wefan Ansawdd Aer yng Ngogledd Iwerddon (dolen allanol, Saesneg yn unig)