Skip to content

Ffioedd a thaliadau

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae rheoleiddwyr yn adennill costau eu gwaith Trwyddedu Amgylcheddol oddi wrth ddeiliaid y trwyddedau. Mae hyn yn dilyn polisi’r Llywodraeth ac yn sicrhau dyraniad teg o gostau. Mae hefyd yn hybu’r egwyddor mai’r ‘llygrwr sy’n talu’.

Mae dwy set o drefniadau talu ar wahân ond cysylltiedig yn gymwys i weithfeydd:

  • caiff costau ar gyfer gweithfeydd Rhan A(1) eu gosod a’u gweithredu gan Asiantaeth yr Amgylchedd;
  • caiff costau ar gyfer gweithfeydd Rhan A(2) a Rhan B eu gosod gan Weinidogion Cymru a’u gweithredu gan awdurdodau lleol Cymru.

Gweithfeydd Rhan A(1)

Gelwir y gweithfeydd sydd â'r risg amgylcheddol uchaf yn weithgareddau Rhan A(1). Mae'r rhain yn cael eu rheoleiddio gan Cyfoeth Naturial Cymru.

Enghreifftiau yw:

  • gorsafoedd pŵer mawr;
  • purfeydd metel a gweithfeydd dur mawr;
  • gwaredu gwastraff mawr neu beryglus;
  • cynhyrchu moch a dofednod ar raddfa fawr;
  • cynhyrchu cemegau organig neu anorganig.

Gweithfeydd Rhan A(2)

Gelwir y gweithfeydd sydd â risg amgylcheddol canolig yn weithgareddau Rhan A(2) Mae'r rhain yn cael eu rheoleiddio gan awdurdodau lleol.

Enghreifftiau yw:

  • gweithfeydd araenu coil;
  • gweithfeydd galfaneiddio sypiau;
  • gefeiliau;
  • castio aloeon metel ar raddfa ganolig;
  • gorchuddio cerrig ffyrdd;
  • prosesau eraill â risgiau amgylcheddol llai.

Gweithfeydd Rhan B

Gelwir y gweithfeydd sydd â risg amgylcheddol isel yn weithgareddau Rhan B. Maen nhw hefyd yn cael eu rheoleiddio gan awdurdodau lleol.

Enghreifftiau yw:

  • sychlanhawyr;
  • gweithfeydd rendro bach;
  • ail-chwistrellu cerbydau ffordd;
  • cynhyrchu compostau tyfu madarch.