Skip to content

Cemegau ac ymbelydredd

arwydd perygl

Rydym yn gweithio ar yr agweddau amgylcheddol ar faterion yn ymwneud â chemegion, ynni niwclear ac ymbelydredd lle y gallai dod i gysylltiad â hwy niweidio’r amgylchedd a phobl.

Cemegau

Mae llawer o gemegau'n digwydd yn naturiol. Caiff eraill eu gweithgynhyrchu neu eu rhyddhau'n ddamweiniol fel sgil-gynhyrchion neu gynhyrchion sydd wedi ymddatod. Gall rhai cemegau fod yn niweidiol i'r amgylchedd ac i iechyd y cyhoedd.

Mae Llywodraeth Cymru'n cydweithio gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), y Gweinyddiaethau Datganoledig eraill, yr awdurdodau lleol, Asiantaeth yr Amgylchedd a chyrff rheoleiddiol eraill er mwyn sicrhau bod cemegau diwydiannol, sgil-gynhyrchion, plaladdwyr, bioladdwyr a meddyginiaethau milfeddygol yn ddiogel i’r amgylchedd.

Ymbelydredd

Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol yng Nghymru am effeithiau ymbelydredd ar yr amgylchedd. Rydym yn cydweithio â'r cyrff canlynol: 

  • Asiantaeth yr Amgylchedd - i fonitro ac i reoli gwastraff a gollyngiadau ymbelydrol; ac
  • Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch - i reoli diogelwch gweithwyr ar safleoedd niwclear ac mewn canolfannau ymchwil niwclear yng Nghymru, ac i ddiogelu’r cyhoedd rhan dod i gysylltiad uniongyrchol ag ymbelydredd.