Skip to content

Tipio anghyfreithlon

Dolenni perthnasol

Bydd yr ymgynghoriad hwn sy’n helpu i ddatblygu strategaeth tipio anghyfreithlon newydd yn dod i ben ar 28 Chwefror 2013.
Yn cynnwys data ar leoliadau a nifer yr erlyniadau.

Ystyr tipio anghyfreithlon yw gadael gwastraff ardir. Gall tipio anghyfreithlon lygru'r amgylchedd, niweidio iechyd dynol a difetha'n mwynhad o'n trefi a'n cefn gwlad.

Rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd yr amgylchedd lleol, mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a lleihau’r swm a gaiff ei wario i dalu costau glanhau. Mae Cymru yn gwario bron i £3 miliwn bob blwyddyn ar gostau glanhau, sydd yn y pen draw yn cael ei dalu gan drethdalwyr.

Ein Strategaeth Tipio Anghyfreithlon

Mae'r Strategaeth Tipio Anghyfreithlon pum mlynedd a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2006 yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd ac fe gyhoeddir diweddariad yn yr hydref 2012. Rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i:

  • Sicrhau mesurau atal, ymchwilio a gorfodi gwell ar gyfer tipio anghyfreithlon a mathau eraill o ddympio gwastraff anghyfreithlon. Bydd rhoi mwy o ymdrech i hyn yn golygu y bydd angen gwario llai o arian ar glirio gwastraff. Ers 2006, rydym wedi rhoi cyllid i fenter lwyddiannus Taclo Tipio Cymru (Balchder yn Ein Cymunedau gynt) oedd yn targedu'r de-orllewin yn wreiddiol ond sydd bellach wedi'i ymestyn i Gymru gyfan. Mae deddfwriaeth sy'n rhoi pwerau effeithiol, haws eu defnyddio wedi helpu gorfodaeth. 
  • Sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru a'r 22 Awdurdod Lleol yn gallu gwneud eu gwaith yn effeithiol, a sicrhau bod cynhyrchwyr gwastraff yn cymryd cyfrifoldeb am drin eu gwastraff yn gyfreithlon

Graddau'r broblem tipio anghyfreithlon yng Nghymru

Yn 2010-11 cafwyd 41,479 o achosion o dipio anghyfreithlon yng Nghymru. Yn y rhan fwyaf o achosion, cafodd gwastraff cartref ei adael wrth ymyl y ffordd mewn ardaloedd trefol.

Gall tipio anghyfreithlon amrywio o adael matres sengl neu sach ddu i dipio teiars neu lond lori o wastraff adeiladu a dymchwel.

Gall rhai achosion o dipio anghyfreithlon, er eu bod yn fach, fod yn ddifrifol, yn enwedig os mai gwastraff peryglus sydd dan sylw.

Mae nifer o resymau pam mae pobl yn tipio'n anghyfreithlon:

  • mae drwgweithredwyr yn trefnu llawer o achosion o dipio anghyfreithlon er mwyn gwneud arian a thanseilio rôl cludwyr gwastraff cofrestredig;
  • pobl yn cymryd cyfle gan eu bod yn teimlo na fyddant yn cael eu dal;
  • pobl yn anwybyddu'r cyfrifoldeb i gael gwared ar wastraff yn ddiogel ac yn briodol gyda chludwyr gwastraff cofrestredig;
  • diffyg ystyriaeth o effeithiau gweledol a chost tipio anghyfreithlon ar yr amgylchedd lleol;
  • cynnydd yng nghost symud gwastraff i fusnesau a pherchnogion tai.

Y Grŵp Cenedlaethol dros Atal Tipio Anghyfreithlon (NFTPG)

Mae tipio anghyfreithlon yn digwydd ym mhob rhan o'r DU.  Mae'r Grŵp Cenedlaethol Atal Tipio Anghyfreithlon yn cwrdd bob tri mis i rannu gwybodaeth, arfer gorau ac atebion ledled y DU.  

I gael rhagor o wybodaeth am y Grŵp Cenedlaethol Atal Tipio Anghyfreithlon, ewch i'w gwefan.

Ewch i: wefan Grŵp Cenedlaethol Atal Tipio Anghyfreithlon (dolen allanol, Saesneg yn unig)