Yn 2012-13, daeth 168 o geisiadau i law oedd yn werth £2.5 miliwn. Byddwn yn darparu £350,000 ac yn ei rannu rhwng 31 o brosiectau yn ardaloedd 15 o awdurdodau lleol.
Ynys Môn
Mae Partneriaeth Plas Cybi wedi cael £3,600 o gyllid i ran-dalu am sgipiau i helpu gyda gwaith glanhau yng Nghaergybi.
Bydd y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar/Natur Gwynedd yn cael £6,120 er mwyn gallu parhau i gyflogi contractwyr i drin planhigion ymledol gan eu bod yn awyddus i’r safle gael ei ddynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI). Hefyd, bydd y prosiect yn codi ymwybyddiaeth y preswylwyr o’r planhigyn Clymog Japan (Japanese Knotweed) er mwyn ceisio ei atal rhag ymledu.
Rydym wedi cytuno i roi £29,200 i Grŵp Trehinion fel y gallant wneud y gwaith clirio canlynol yn Stryd Mona, Amlwch:
- clirio sbwriel;
- clirio sbwriel cyffuriau;
- clirio llystyfiant sydd wedi gordyfu.
Caerffili
Mae Grŵp Treftadaeth Cwm yr Aber wedi cael £13,342.40 o gyllid i ran-dalu am wella Gardd Goffa Senghennydd. Mae’r canlynol yn broblem yn yr ardd:
- ymddygiad gwrthgymdeithasol;
- sbwriel;
- tipio anghyfreithlon.
Byddwn yn rhoi £22,180 o gyllid rhannol i Gymunedau yn Gyntaf Craig-y-rhaca. Bydd y cydgysylltwyr yn defnyddio’r arian hwn i weddnewid ardal sydd ar hyn o bryd yn cael ei anharddu gan dipio anghyfreithlon, taflu sbwriel a phobl yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol a’i weddnewid yn rhandir cymunedol.
Rydym wedi cytuno i roi £20,832 i Gyfeillion Parc Eco Cefn Fforest yn y Coed Duon. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i greu prosiectau bach er mwyn gwella sawl rhan diffaith o’r parc. Bydd y prosiectau bach hyn yn gwella’r ardal a gwneud gwaith fel codi ffensys er mwyn rhwystro beicwyr modur rhag cael mynediad i’r parc.
Caerdydd
Mae Roxe Foundation wedi cael £2,500 i’w helpu gyda phrosiect glanhau graffiti sydd eisoes ar waith ac i ddarparu waliau graffiti cyfreithiol.
Bydd Cymdeithas Tai Cadwyn yn cael £15,000 o gyllid i ran-dalu am gatiau mynediad electronig yn y meysydd parcio er mwyn lleihau’r broblem gwastraff yn ystad Havelock Close.
Sir Gaerfyrddin
Mae Cyngor Cymunedol Llanfynydd yn cael £4,069.83 i’w helpu i blannu perllan gymunedol ar dir diffaith.
Bydd Cymdeithas Dyfu Cymunedol Pen-bre yn cael £7,754.25 o gyllid i ran-dalu am godi ffensys. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i weddnewid ardal sy’n cael ei anharddu gan dipio anghyfreithlon yn blotiau y gall y gymuned eu defnyddio.
Sir Ddinbych
Mae Cyfleuster Cymunedol John Davies wedi cael £30,000 i wella tir diffaith ger Cefnbychan. Mae llawer o sbwriel wedi’i dipio’n anghyfreithlon yno gan ei fod yn arfer bod yn rhan o safle tirlenwi Glan Morfa.
Bydd Rhaglen Wardeiniaid Cymdogaeth Prestatyn a Galltmelyn yn cael £1,675.20 i’w helpu i lansio ymgyrch i gael gwared ar faw cŵn. Fel rhan o’r ymgyrch, bydd gwirfoddolwyr y Rhaglen Wardeiniaid Cymdogaeth yn rhannu bagiau baw cŵn a thaflenni gwybodaeth i bobl sy’n mynd a’u cŵn am dro.
Sir y Fflint
Bydd Cymunedau yn Gyntaf Treffynnon yn cael £30,000 i’w helpu i ddatblygu coetiroedd ar gyfer y gymuned. Byddant yn defnyddio’r arian i drin a difa planhigion ymledol a chodi ffensys er mwyn atal pobl rhag tipio sbwriel yn anghyfreithlon.
Gwynedd
Mae Cyngor Cymuned Llanwnda yn cael £30,000 i’w helpu i dorri gordyfiant a gwella’r mynediad at y llwybr sy’n cysylltu Dyffryn Nantlle a Chyffordd Tryfan. Hefyd, byddan nhw’n rhoi wyneb newydd i’r llwybr ac yn codi ffensys a gatiau.
Merthyr Tydfil
Mae Cymdeithas Lles Glöwyr Bedlinog wedi cael £9,600 o gyllid i ran-dalu am waith clirio tir sy’n cael ei anharddu gan dipio anghyfreithlon a sbwriel a datblygu’r tir hwn yn ardd gymunedol. Hefyd, byddan nhw’n defnyddio’r arian i glirio gwastraff o’r afon ac i greu llwybr cymunedol.
Bydd Cyfeillion yr Inky yn cael £28,600 i’w helpu i weddnewid tir diffaith sy’n cael ei anharddu gan dipio anghyfreithlon a sbwriel ac sy’n cael ei ddefnyddio gan bobl sy’n defnyddio beiciau modur traws gwlad yn anghyfreithlon. Bydd cydgysylltwyr y prosiect yn defnyddio’r arian i wneud y canlynol:
- codi ffensys a gosod biniau sbwriel;
- gwella’r llwybrau fel eu bod yn haws mynd atynt yn y gaeaf;
- trin Clymog Japan;
- plannu coed.
Sir Fynwy
Bydd Cynllun Gwarchod Cymdogaeth Victoria Street yn cael £500 i’w helpu i wella gardd ddiffaith yn Sgwâr y Llyfrgell yn y Fenni. Ar hyn o bryd, mae sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem yn yr ardal.
Mae Cymdeithas Afonydd Mynwy wedi cael £6,500 i’w helpu i ddifa Ffromlys yr Hymalaya (Himalayan Balsam). Mae’r Gymdeithas eisoes wedi bod wrthi ers 4 blynedd yn trin y planhigyn a hyd yma, maent wedi llwyddo i drin a difa’r Ffromlys ar hyd 54 cilometr o’r Afon Fynwy.
Mae Cymdeithas Tai Sir Fynwy yn cael £9,132.84 o gyllid i ran-dalu am waith glanhau. Bydd y gymuned yn cael ei chynnwys yn y gwaith hwn a bydd y prosiect yn rhoi sylw i bum ardal sy’n dioddef gan dipio anghyfreithlon, problemau gwastraff domestig, lleoedd wedi’u hesgeuluso a baw cŵn.
Castell-nedd Port Talbot
Bydd Cymdeithas Lles Glöwyr Pont-rhyd-y-fen yn cael £15,212 i barhau â’r gwaith o greu gardd gymunedol. Bydd y gwaith yn cynnwys y canlynol;
- gwella’r system ddraenio;
- adeiladu llwybrau;
- codi ffensys diogelwch;
- trin Clymog Japan a Ffromlys yr Hymalaya.
Rhondda Cynon Taf
Mae cymdeithas Rheini ac Athrawon Tref y Rhyg wedi cael £2,465.80 er mwyn gallu gosod teiliau mosäig ar wal yr ysgol i guddio graffiti a fandaliaeth. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i brynu gwisgoedd diogelwch i’r disgyblion fel eu bod yn gallu cymryd rhan mewn gweithdai ar sut i wneud teiliau mosäig.
Bydd Cymdeithas Preswylwyr Fernhill yn cael £6,959.60 i’w helpu i glirio tir diffaith sydd wedi’i anharddu gan sbwriel a gwastraff sydd wedi cael ei dipio’n anghyfreithlon. Byddan nhw hefyd yn cynnal diwrnod ymwybyddiaeth i’r gymuned am wastraff, codi ffensys a chreu gwelyau planhigion.
Byddwn yn rhoi £12,496 i Gyngor Cymunedol Llantrisant fel y gallan nhw brynu offer i helpu’r gymuned i greu gardd a rhandir ar dir diffaith o’r enw ‘Hen Iard yr Ysgol’ yn Ystâd Dan Caerlan yn Llantrisant.
Bydd Grŵp Amgylcheddol y Darran Las yn cael £2,893 i gael gwared ar wastraff sydd wedi cael ei dipio’n anghyfreithlon yn y Darran Las ac i ddysgu preswylwyr sut i dorri llystyfiant a chlirio sbwriel.
Abertawe
Mae Parc Llewelyn wedi cael £1,120 o gyllid i ran-dalu am waith difa Clymog Japan o dair ardal yn y parc.
Bydd Cymdeithas Masnachwyr y Mwmbwls yn cael £2,393.37 o gyllid i ran-dalu am becynnau glanhau i’r grŵp cymunedol.
Rydym wedi cytuno i roi £21,550 i Ymddiriedolaeth Datblygu Cymuned yr Hill er mwyn iddyn nhw allu datrys problemau amgylcheddol yn Townhill. Bydd y gwaith yn cynnwys:
- sesiynau hyfforddi amgylcheddol er mwyn gallu recriwtio ceidwaid gwirfoddol i warchod yr amgylchedd;
- ymdrin ag ardaloedd lle mae tipio anghyfreithlon yn broblem;
- rheoli planhigion ymledol;
- gwella mynediad at fannau agored.
Bydd Cyfeillion Parc Coed-bach yn cael £10,000 i’w helpu i ddifa Clymog Japan. Bydd y Cyngor yn rhoi cyngor arbenigol iddyn nhw ar sut i glirio’r safle’n effeithiol ac yn ddiogel.
Tor-faen
Mae Melin Homes wedi cael £18,504 o gyllid i ran-dalu am sefydlu menter ar y cyd â’r Gymdeithas Tai i lanhau sbwriel, phlannu planhigion a chynnal amnest sgipiau gwastraff.
Bydd Partneriaeth CoStar yn cael £4,583.24 o gyllid i ran-dalu am dair sgip ar gyfer amnest gwastraff.
Wrecsam
Bydd Cymdeithasau Rhandiroedd Maesgeirchen a Than y Bryn yn cael £7,868.40 o gyllid i ran-dalu am ffensys diogelwch ac atal tipio anghyfreithlon ar y tir sydd ar hyn o bryd yn dioddef yn fawr gan y broblem hon.