Skip to content

Tir heintedig

Cangen wedi marw mewn tir heintedig

Gwybodaeth am ddeddfwriaeth, canllawiau a chyfrifoldebau ynghylch ymdrin â thir halogedig.

Ar 15 Medi 2001 daeth system neu gyfundrefn well i rym ar gyfer nodi ac adfer tir halogedig .

 

Cyfeirir at y gyfundrefn tir halogedig fel " Rhan IIA" neu "Rhan 2A", sy'n golygu Rhan 2A o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a'r canllawiau a'r rheoliadau sy'n cyd-fynd â hi. .

 

Ym mis Rhagfyr 2006, cafodd y gyfundrefn tir halogedig ei hymestyn i gynnwys ymbelydredd .

Mae'r gyfundrefn estynedig yn darparu system er mwyn nodi ac adfer tir halogedig lle mae tir o'r fath yn achosi i unrhyw berson ddod i gysylltiad am gyfnod ag ymbelydredd . Mae’r gyfundrefn yn weithredol ar gyfer ymbelydredd sy’n codi o ganlyniad i weithgarwch dynol yn unig.

 

Mae'r gyfundrefn yn darparu diffiniad o dir halogedig .  Mae’r diffiniad yn canolbwyntio ar risgiau sy'n codi yng nghyd-destun defnydd ac amgylchiadau presennol y tir .

 

Mae'r gyfundrefn hefyd yn darparu rheolau ar gyfer neilltuo cyfrifoldeb am dir halogedig, yn seiliedig ar yr egwyddor mai'r sawl sy'n llygru sy'n talu .

 

Awdurdodau lleol

 

Mae’r gyfundrefn yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i:

 

  • archwilio eu hardaloedd;
  • nodi tir halogedig;
  • ymdrin â’r problemau yn unol â’r ymagwedd “addas i’w ddefnyddio”.

Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi strategaeth ar gyfer archwilio eu hardal.

 

Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n gyfrifol am ymdrin â “safleoedd arbennig” diffiniedig, a monitro ac adrodd ar y cynnydd a wneir.

 

Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) (Diwygio) 2008


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân newidiadau technegol ac angenrheidiol er mwyn dod â'r gyfundrefn tir a halogwyd yn ymbelydrol yn unol â'r gyfundrefn Trwyddedau Amgylcheddol newydd.  Daeth y gyfundrefn Trwyddedau Amgylcheddol newydd i rym ar 6 Ebrill a gellir ei gweld o dan y dogfennau perthnasol.

 

Ewch i: Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) (Diwygio) 2008 (dolen allanol, Saesneg yn unig)