Skip to content

Helpu i ddiogelu'r amgylchedd

Rydym yn gweithio i ddiogelu a gwella’r amgylchedd yng Nghymru ar gyfer y dyfodol. Mae ein Strategaeth Amgylcheddol yn esbonio sut y byddwn yn mynd i’r afael â sialensau fel y newid yn yr hinsawdd. Ond ni all Llywodraeth y Cynulliad ymateb i’r sialensau hyn ar ei phen ei hun. Mae angen i ni gael help busnesau, cymunedau ac unigolion ledled y wlad.

Ein hamgylchedd – sut y gallwch chi helpu

Fel rhywun sy’n byw yng Nghymru neu’n ymweld â Chymru, gallwch helpu i ddiogelu’r amgylchedd drwy wneud newidiadau bach i’ch ffordd o fyw a chymryd camau syml. Drwy’r cysylltiadau a welwch ar y dudalen hon cewch ragor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud.

Mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd

Gwybodaeth gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar ddefnyddio ynni’n effeithlon.

Ewch i: wefan Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (cyswllt allanol - Saesneg yn unig).

Arbed adnoddau

Gwybodaeth a chyngor gan Gynllun Craff am Wastraff ar sut i leihau eich gwastraff yn y cartref.

Ewch i: wefan Cynllun Craff am Wastraff (cyswllt allanol).

Gwybodaeth a chyngor gan Asiantaeth yr Amgylchedd ar sut i ddefnyddio llai o ddŵr.

Ewch i: wefan Asiantaeth yr Amgylchedd - Save water (cyswllt allanol).

Diogelu bywyd gwyllt

Gwybodaeth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ar fywyd gwyllt a chynefinoedd Cymru.

Ewch i: wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (cyswllt allanol)

NaturCymru sef cylchgrawn ar fywyd gwyllt Cymru.

Ewch i: wefan NaturCymru (cyswllt allanol)

Amgylcheddau lleol

Gwybodaeth a chyngor gan Cadwch Gymru’n Daclus ar gynlluniau i leihau lefelau sbwriel yng Nghymru.

Ewch i: wefan Cadwch Gymru'n Dacluse (cyswllt allanol)

Gall eich parc lleol neu eich cymuned leol ennill Baner Werdd.

Ewch i: wefan Baner Werdd (cyswllt allanol,Saesneg yn unig).

Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn cynhyrchu pecyn o Ganllawiau Gwyrdd ar gyfer annau gwyrdd yng Nghymru.

Ewch i: wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (cyswllt allanol)

Llifogydd

Cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd am wybodaeth am lifogydd a’r hyn y gallwch chi ei wneud.

Ewch i: wefan Asiantaeth yr Amgylchedd - llifogydd (cyswllt allanol).

Llinell gymorth llifogydd: 0845 988 1188

Y dirwedd a’r etifeddiaeth

Cyswllt Amgylchedd Cymru yw’r sefydliad cyswllt ar gyfer grwpiau amgylcheddol o fewn y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Ewch i: wefan Cyswllt Amgylchedd Cymru (cyswllt allanol)

Llygredd

Llinell gymorth Asiantaeth yr Amgylchedd 0800 80 70 60.

Cewch gyngor gan eich Awdurdod Lleol ar sut i waredu gwahanol fathau o wastraff.