Skip to content

Y Gyfarwyddeb Atebolrwydd Amgylcheddol (2004/35/EC)

Mae’r Gyfarwyddeb yn atgyfnerthu’r egwyddor “y llygrwr sy’n talu” – gan wneud gweithredwyr yn atebol yn ariannol am fygythiadau a difrod i’r amgylchedd.

Nod y Gyfarwyddeb yw rhwystro ac unioni difrod amgylcheddol i’r canlynol:

  • cynefinoedd a rhywogaethau sy’n cael eu diogelu gan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd;
  • rhywogaethau neu gynefin ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig;
  • adnoddau dŵr; a
  • tir gan lygredd allai fod yn fygythiad i iechyd pobl.

Prif nodweddion

Cwmpas

Nid yw’r Gyfarwyddeb yn cwmpasu pob math o ddifrod i’r amgylchedd. Mae’n ymdrin yn unig â’r mathau canlynol o ddifrod:

  • difrod i rywogaethau sy’n cael eu gwarchod a chynefinoedd naturiol ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig;
  • difrod i ddŵr;
  • difrod i dir.

Mae’r Gyfarwyddeb yn creu dau fath o atebolrwydd:

  • atebolrwydd sy’n seiliedig ar fai am ddifrod amgylcheddol i rywogaethau sy’n cael eu gwarchod a chynefinoedd naturiol gan bob gweithgarwch galwedigaethol arall;
  • ‘atebolrwydd caeth’ (strict liability) am ddifrod amgylcheddol sy’n cael ei achosi gan amrywiaeth o ‘weithgareddau galwedigaethol’ (gweler Atodiad III i’r Gyfarwyddeb).

Adrodd am ddifrod amgylcheddol

Rhaid i weithredwyr gymryd camau ar unwaith i rwystro difrod neu ddifrod pellach a rhoi gwybod i’r awdurdod gorfodi.

Rôl yr awdurdod gorfodi

Rhaid i’r awdurdod benderfynu a yw’n ‘ddifrod amgylcheddol’ ai peidio ac enwi gweithredydd cyfrifol.

Systemau atebolrwydd yn y Deyrnas Unedig

Mae nifer o systemau cyfreithiol eisoes yn bodoli yn y Deyrnas Unedig ar gyfer unioni difrod amgylcheddol. Unioni yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r mesurau sydd eu hangen i adfer yr amgylchedd. O dan y systemau hyn, awdurdodau cyhoeddus fel awdurdodau lleol neu Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n cymryd y camau gweithredu. Mae nhw’n gallu mynnu bod y sawl sy’n gyfrifol am ddifrod yn ei unioni neu mae nhw’n cael unioni’r difrod eu hunain a mynnu bod y sawl sy’n gyfrifol am y difrod yn talu’r costau.

Bydd y Rheoliadau’n ychwanegu at y ddeddfwriaeth bresennol ar warchod yr amgylchedd. Mae’r deddfau presennol yn cynnwys:

  • Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990;
  • Deddf Adnoddau Dŵr 1991;
  • Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981;
  • Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999.

Bydd y ddeddfwriaeth uchod yn dal yn gymwys a bydd yn ofynnol cydymffurfio â hi pan fydd rhwymedigaethau ychwanegol at y Rheoliadau hyn yn cael eu cyflwyno.

Ewch i: Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) (dolen allanol, Saesneg yn unig)