Skip to content

Sŵn a niwsans

Dolenni perthnasol

Gweithdrefnau ar gyfer pennu ardaloedd tawel ac ardaloedd blaenoriaeth.
Bydd y llyfryn hwn yn eich helpu i ddelio â phroblemau sŵn a byddwch hefyd yn dysgu am faterion yn ymwneud â sŵn.
Yn creu tramgwydd o achosi sŵn yn y nos mewn eiddo domestig ac yn pennu gweithdrefn ar gyfer atafaelu a fforffedu cyfarpar sy’n gwneud sŵn.
distawrwydd, os gwelwch yn dda - bys ar wefys

Sut y gallwch ymdrin â sŵn, arogleuon annymunol, mwg, llygredd isel a mathau eraill o niwsans mewn cymdogaethau sy’n effeithio arnoch chi.

Mae swn, arogleuon, mwg a llygredd golau, yn fathau o niwsans statudol yn y gymdogaeth sy'n gallu effeithio arnom.

Delio â'r broblem

Os ydych yn pryderu am sŵn neu niwsans arall sy’n dod o gartref cymydog neu o fusnes neu ffatri leol, y ffordd orau o ddelio â’r broblem yn aml yw mynd i lygad y ffynnon. Siaradwch â’r unigolyn neu’r cwmni sy’n gyfrifol ac eglurwch y broblem, mae’n ddigon posibl y gallwch ddatrys y broblem yn gyfeillgar.

Camau ffurfiol

Os nad yw’n bosibl cymryd camau anffurfiol, neu os ydynt yn methu, gallwch gymryd camau ffurfiol. Y ffordd fwyaf cyffredin o wneud hyn yw trwy gwyno i'ch awdurdod lleol am y broblem. Mae'r Part III of the Environmental Protection Act 1990 yn rhoi mwy o wybodaeth i chi o ran sut i fynd ati wneud hyn.

Mae Deddf Diogelu’r Amgylchedd yn ailddatgan y diffiniad cyfreithiol o niwsansau statudol a’r gweithdrefnau ar gyfer mynd i’r afael â hwy.

O dan y Ddeddf, rhaid i’r Awdurdodau Lleol gymryd camau sy’n rhesymol ymarferol i ymchwilio i gwynion ynghylch niwsansau statudol.

Mae Deddf Diogelu’r Amgylchedd yn mynnu bod awdurdod lleol yn rhoi diwedd ar neu lleihau niwsansau statudol.

Ewch i: wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus: Part III of the Environmental Protection Act 1990 (dolen allanol, Saesneg yn unig)