Skip to content

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Dolenni perthnasol

Bydd y llyfryn hwn yn eich helpu i ddelio â phroblemau sŵn a byddwch hefyd yn dysgu am faterion yn ymwneud â sŵn.
Rydym am i'n cymunedau fod yn fannau y mae pobl yn teimlo'n ddiogel yn byw a gweithio ynddynt, yn awr ac yn y dyfodol.
Cylchlythyr ar gyfer pawb sy'n gweithio i leihau trosedd ac ofn trosedd.
Gweiddi'n uchel
Derbyniodd Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (yn Saesneg yn unig) yn adeiladu ar ddeddfwriaeth gyfredol er mwyn egluro, symleiddio ac ategu’r pwerau sydd ar gael i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Derbyniodd Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (cyswllt allanol - Saesneg yn unig) Gydsyniad Brenhinol ym mis Tachwedd 2003. Roedd y Ddeddf yn adeiladu ar ddeddfwriaeth gyfredol er mwyn egluro, symleiddio ac ategu’r pwerau sydd ar gael i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Cynhwysir Swn gan Gymdogion yn Rhan 6 y Ddeddf. Mae’r darpariaethau ar swn, a ddaeth i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2004, yn bwerau galluogi hyblyg sy’n rhoi mwy o ryddid i awdurdodau lleol ymdrin â swn sy’n achosi niwsans. Mae’r darpariaethau yn cynnwys:

  • System Hysbysiad o Gosb Sefydlog (FPN) ar gyfer troseddau swn mewn tai annedd.
  • Rhoi’r grym i swyddogion awdurdodedig mewn awdurdodau lleol gyhoeddi FPN.
  • Caniatáu i awdurdodau lleol gymryd camau gorfodi os na chaiff FPN ei dalu.
  • Rhoi mwy o bwerau i swyddogion awdurdodau lleol feddiannu offer sy’n gwneud swn.
  • Pwerau i roi hysbysiad cau i sefydliadau trwyddedig sy’n creu niwsans swn.

Cysylltiadau perthyn

Ewch i: wefan y Swyddfa Gartref (dolen allanol, Saesneg yn unig)