Skip to content

Swn amgylcheddol

Dolenni perthnasol

Rydyn ni’n rhoi cyllid i 14 prosiect sy’n canolbwyntio ar wella ansawdd yr aer, sŵn amgylcheddol a mannau gwyrdd tawel mewn ardaloedd trefol.
Canllawiau ar gynlluniau gweithredu ansawdd aer a sŵn traffig.
Gweithdrefnau ar gyfer pennu ardaloedd tawel ac ardaloedd blaenoriaeth.
Bydd y llyfryn hwn yn eich helpu i ddelio â phroblemau sŵn a byddwch hefyd yn dysgu am faterion yn ymwneud â sŵn.
Peiriant jet
Mae'n bosib dosbarthu'r gwahanol fathau o swn y gallwch ei glywed i gategorïau weddol eang. Er enghraifft: swn amgylcheddol sy'n cael ei achosi gan drafnidiaeth a diwydiannau.

Gall swn fod yn annifyr, gall darfu ar sgwrs neu ar gwsg ac mewn amgylchiadau eithriadol, gall achosi niwed corfforol i'r rheini sy'n ei ddioddef. Mae'n bosib dosbarthu'r gwahanol fathau o swn y gallwch ei glywed i rai categorïau gweddol eang. Er enghraifft: swn galwedigaethol sydd i'w glywed yn y gweithle; swn gan gymdogion neu swn yn y gymdogaeth, sydd yn cael ei achosi gan bobl yn ac o gwmpas eu cartrefi; a swn amgylcheddol (sy'n cael ei alw yn aml yn swn amgylchynol) sy'n cael ei achosi gan drafnidiaeth a diwydiannau.

Mae nifer o gamau wedi'u cymryd yn y gorffennol i fynd i'r afael â swn amgylcheddol er enghraifft:

  • gostegu'r swn y mae cerbydau, awyrennau etc unigol yn eu cynhyrchu;
  • cyflwyno cynlluniau rheoli traffig; a 
  • mynd i'r afael â swn yn ystod y cam cynllunio ar gyfer datblygiadau sy'n creu swn neu sy'n sensitif i swn.

Mae camau o'r fath wedi lleihau'n sylweddol ar y swn a ddaw o ffynonellau unigol, ond yn aml y maent wedi methu tawelu'r swn amgylcheddol cyffredinol oherwydd bod ffactorau eraill ar waith, er enghraifft y twf yn nifer y cerbydau sydd ar ein ffyrdd.