Skip to content

Sŵn diwydiannol

Dolenni perthnasol

Mae'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru yn darparu ystod eang o wasanaethau.
Mae’r nodyn hwn yn rhoi canllawiau ar sut y gellir defnyddio rheolaethau cynllunio ac arferion amgylcheddol da er mwyn cadw allyriadau sŵn i lefelau sy’n amgylcheddol dderbyniol.
Llygredd mwg diwydianol
Gall sŵn diwydiannol fod yn fwy amlwg a gall amharu'n fwy ar fywyd na sŵn traffig ffordd. Os oes gennych unrhyw bryderon am sŵn diwydiannol, dylech gysylltu â'r cwmni i ddechrau. Gallwch hefyd gysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd neu eich awdurdod lleol.

Caiff sŵn sy'n deillio o weithgareddau diwydiannol mawr a gweithredu i ddelio â gwastraff ei reoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd ac awdurdodau lleol o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010. Mae sŵn diwydiannol o ffynonellau eraill yn ddarostyngedig i bwerau niwsans statudol awdurdodau lleol o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

Ewch i: Wefan Asiantaeth yr Amgylchedd (dolen allanol)

Gallwch ddod o hyd i wefan eich awdurdod lleol drwy ddefnyddio'r dolenni perthnasol ar ochr dde'r dudalen hon.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi canllawiau ar asesu a rheoli sŵn diwydiannol. Mae'r canllawiau ar gael ar eu gwefan.

Ewch i: Canllawiau Llorweddol: Asiantaeth yr Amgylchedd (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Canllawiau eraill

Rydym wedi cyhoeddi nodyn cyngor technegol ar sŵn a chynllunio a chanllawiau cynllunio mwynau ar reoli sŵn. Mae'r ddau ganllaw ar gael o dan y dolenni perthnasol.

Mae gwybodaeth am y gyfraith mewn perthynas â sŵn o fusnesau ar gael ar wefan Busnes Cymru .

Ewch i: Sŵn, Aroglau a niwsans arall: Busnes Cymru (dolen allanol, Saesneg yn unig)

I gael cyngor ar sŵn yn y gweithle ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Ewch i: Sŵn yn y Gweithle: Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (dolen allanol, Saesneg yn unig)