Skip to content

Ardaloedd tawel

Dolenni perthnasol

Daw’r ymgynghoriad ar ardaloedd tawel i ben ar 07 Mai 2012.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rydym wedi penderfynu creu 29 o ‘ardaloedd tawel’ – caiff yr ardaloedd hyn fwy o amddiffyniad sŵn o dan bolisi cynllunio.

Cyhoeddwyd ein cynlluniau gweithredu ynghylch sŵn amgylcheddol yn Ionawr 2009 o dan y Gyfarwyddeb Sŵn Amgylcheddol. Yn dilyn hyn datblygwyd ein gweithdrefnau ar gyfer gweithredu rhan o’r Gyfarwyddeb. Roedd hyn yn cynnwys gweithdrefn ar gyfer dyrannu ardaloedd tawel mewn crynodrefi (ardaloedd trefol mawr).

Enwebodd yr awdurdodau lleol mewn crynodrefi enwebu eu hardaloedd tawel. Mae’n rhaid i’r rhain fod yn fannau heddychlon sydd o werth i’r gymuned leol.

Cynhaliom ymgynghoriad ar hyn ym mis Chwefror 2012. Rydym wedi penderfynu creu 29  o ‘ardaloedd tawel‘ mewn crynodrefi. Fe gaiff y rhain fwy o amddiffyniad sŵn o dan bolisi cynllunio.

Dangosir yr ardaloedd tawel ar y mapiau isod. Mae’r mannau hyn yn disodli Atodiad E o’r cynlluniau gweithredu a gyhoeddwyd yn 2009.