Skip to content

Cylch cyntaf dynodi NAPPAau ac ardaloedd distaw

Dolenni perthnasol

Bydd yr ymgynghoriad hwn ar ardaloedd tawel ac ardaloedd blaenoriaeth yn dod i ben ar 05 Mai 2011.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rydym wedi cynhyrchu dwy ddogfen sy’n nodi’r gweithdrefnau ar gyfer pennu ardaloedd tawel mewn crynodrefi (ardaloedd trefol mawr) ac Ardaloedd Blaenoriaeth Cynlluniau Gweithredu ynghylch Sŵn.

Pennu ardaloedd tawel

Yn y ddogfen hon, rydym yn nodi’r amodau y mae’n rhaid i ardal dawel swyddogol eu bodloni. Ar ôl i ardal gael ei chadarnhau fel ardal dawel swyddogol, gellir gwneud mwy i’w gwarchod trwy reoli lefel y sŵn, a hynny o dan ganllawiau cynllunio statudol.

Pennu ardaloedd blaenoriaeth

Yn y ddogfen hon, rydym yn nodi’r amodau y mae’n rhaid cadw atynt wrth bennu Ardaloedd Blaenoriaeth Cynlluniau Gweithredu ynghylch Sŵn. Mae’r amodau hyn yn dechnegol, ac maent yn cynnwys dibynadwyedd y mapiau sŵn strategol a model cysylltiad y boblogaeth â sŵn.