Skip to content

Tân gwyllt

Tân gwyllt
O dan Reoliadau Tân Gwyllt 2004 mae’n anghyfreithlon bellach i danio tân gwyllt rhwng un ar ddeg o’r gloch y nos a saith o’r gloch y bore. Bydd cyfnod y gwaharddiad yn dechrau’n hwyrach ar y pedair noson o’r flwyddyn pan ddefnyddir tân gwyllt mewn digwyddiadau traddodiadol neu ddiwylliannol.

Mae tân gwyllt yn rhoi pleser ac adloniant o gwmpas Noson Tân Gwyllt, Nos Galan ac ar achlysuron arbennig eraill drwy’r flwyddyn. Mae llawer o bobl o bob oed yn mwynhau arddangosfeydd sydd wedi’u trefnu, ar lefel genedlaethol neu leol. Pan fydd hyn yn digwydd yn gyson, fodd bynnag, gall gael effaith ddrwg ar y bobl mwyaf sensitif yn ein cymdeithas, anifeiliaid anwes a bywyd gwyllt ac effeithio ar ansawdd bywyd mewn mannau cyhoeddus ac ar dir preifat.

O dan Reoliadau Tân Gwyllt 2004 (cyswllt allanol - Saesneg yn unig) mae’n anghyfreithlon bellach i danio tân gwyllt rhwng un ar ddeg o’r gloch y nos a saith o’r gloch y bore. Bydd cyfnod y gwaharddiad yn dechrau’n hwyrach ar y pedair noson o’r flwyddyn pan ddefnyddir tân gwyllt mewn digwyddiadau traddodiadol neu ddiwylliannol. Ar Nos Galan, y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a Diwali ni chaniateir tanio tân gwyllt ar ôl un o’r gloch y bore. Ar 5 Tachwedd, rhaid rhoi’r gorau i danio tân gwyllt am hanner nos. Bydd gan awdurdodau lleol yr hawl i eithrio pobl rhag y gwaharddiad hwn ar gyfer digwyddiadau lleol arbennig.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn cyfyngu ar bwy sy’n gallu prynu tân gwyllt a lefel y swn. Ymysg pethau eraill, maent hefyd yn cyflwyno cynllun trwyddedu, o 1 Ionawr 2005 ymlaen, ar gyfer cyflenwi tân gwyllt y tu allan i gyfnodau penodol.