Skip to content

Deddf Sŵn 1996

Dolenni perthnasol

Cymorth i ddatblygu gwaith amddiffyn plant 2004 - 2005

Mae Deddf Sŵn 1996 yn creu tramgwydd o achosi sŵn yn y nos mewn eiddo domestig ac yn pennu gweithdrefn ar gyfer atafaelu a fforffedu cyfarpar sy’n gwneud sŵn.

O dan y Ddeddf, rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i ymchwilio i gŵyn ynghylch sŵn gormodol yn y nos. Pan fo awdurdod lleol wedi ymchwilio i niwsans statudol ac yn fodlon bod niwsans statudol wedi digwydd, gellir rhoi hysbysiad atal (sy’n gorchymyn dod â’r niwsans i ben).

Mae Deddf Sŵn 1996 yn fodd arall i fynd i’r afael ag amhariadau oherwydd sŵn. Cyn y ddeddf hon, nid oedd yn bosibl mynd i’r afael â’r amhariadau hyn onid oedd tybiaeth bod y sŵn yn achosi niwsans statudol, ac nid yw hynny bob amser yn hawdd i’w brofi.