Skip to content

Gwastraff ac ailgylchu

Dolenni perthnasol

Hoffem gael eich help i ddatblygu rhaglen atal gwastraff a hynny erbyn 20 Mehefin 2013.
Ymgynghoriad ar atal gwastraff, ailddefnyddio, ailgylchu, trin a gwaredu mewn diwydiant a busnesau.
Yn adolygiad o ben draw taith gwastraff a gasglwyd ar gyfer ei ailgylchu, yn ôl adroddiadau awdurdodau lleol Cymru rhwng Ebrill 2011 a Mawrth 2012.
Mae'r ystadegau ar gwastraff ac ailgylchu.
Ar 1 Hydref 2011, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau siopa untro.
biniau ailgylchu

Rydym yn gosod polisïau a nodau graddfa uchel i gynghorau a busnesau eu canlyn, er mwyn sicrhau bod Cymru’n lleihau’r gwastraff a gynhyrcha hyd faint cynaliadwy.

Cynhyrchir rhagor na 17 miliwn tunnell fetrig o wastraff yng Nghymru pob blwyddyn.

Pe bai pawb yn byw fel rydym ninnau yng Nghymru, byddai angen agos i dair planed er mwyn darparu’r adnoddau angenrheidiol. Nid yw hynny’n ddewis ar gyfer Cymru, bellach, felly rhaid inni leihau ein gwastraff ni.

Ceir ein polisïau a’n nodau gwastraff ar gyfer Cymru yn “Tuag at Ddyfodol Diwastraff” – prif ddogfen strategaeth gwastraff Cymru.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â mathau o wastraff, gwastraff cartrefi ac ailgylchu, gweler tudalen gwastraff eich cyngor lleol chi, neu ewch at Ymwybyddiaeth Gwastraff Cymru.

Ewch i: wefan Ymwybyddiaeth Gwastraff Cymru (dolen allanol)

Am wybodaeth am ddelio â gwastraff, a’i leihau i’r eithaf, gweler ein tudalen gwybodaeth gwastraff Busnes.