Skip to content

Deddfu

Dolenni perthnasol

Dyma brif strategaeth gwastraff Cymru.
Mae'r canllaw hwn wedi ei anelu at fusnesau a sefydliadau eraill sy'n gwneud penderfyniadau.

Mae deddfu’n ddull pwysig o weithredu’n strategaeth gwastraff ni.

Fis Chwefror 2010 cafodd Cymru rymoedd newydd er mwyn gwneud ei deddfau ei hun ym maes yr amgylchedd, wedi i’w Mawrhydi’r Frenhines wneud Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) yr Amgylchedd yn y Cyfrin-gyngor.

Golyga’r GCD, a gymeradwywyd eisoes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a dau dŷ San Steffan, fod gan y Cynulliad Cenedlaethol, bellach, rym deddfu ynghylch gwastraff. Gelwir y cyfreithiau hyn yn Fesurau’r Cynulliad.