Skip to content

Rheoliadau’r Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012

Dolenni perthnasol

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio’ch barn chi ynglŷn â Rheoliadau arfaethedig newydd.

Cafodd Rheoliadau’r Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012 eu gosod gerbron Senedd San Steffan a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ar 15 Mawrth 2012.

Daethant i rym ar 6 Ebrill 2012. Maent yn diddymu a disodli Rheoliadau’r Gwastraff a Reolir 1992.

Mae’r Rheoliadau’n ymwneud â gwastraff cartref, gwastraff diwydiannol a gwastraff masnachol. Maent yn galluogi awdurdodau lleol yng Nghymru i godi tâl am gasglu a chael gwared ar wastraff o adeiladau annomestig. Mae rhai eithriadau gan gynnwys:

  • siopau elusennau sy’n gwerthu nwyddau rhodd a sefydliadau sy’n ailddefnyddio nwyddau gan fod y gwastraff wedi dod o adeiladau domestig; a 
  • neuaddau’r pentref ac adeiladau tebyg sy’n cael eu defnyddio i gynnal cyfarfodydd cyhoeddus.

Mae’r Rheoliadau’n galluogi awdurdodau lleol i godi tâl am gasglu gwastraff o adeiladau addysgol ac unrhyw wastraff arall nad yw'n beryglus a gynhyrchwyd ar y safle.

Mae’r Rheoliadau’n cynnwys diwygiadau blaenorol, a rhai diffiniadau ac ystyron sydd wedi’u diwygio a’u diweddaru i wneud y Rheoliadau’n gliriach ac er mwyn iddynt gydymffurfio â deddfwriaeth ddiweddar arall.

Ewch i: Rheoliadau’r Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012 (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Adolygu Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 1992

Rhoddodd Atodlen 2 o’r Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 1992 bŵer i awdurdodau lleol godi tâl am gasglu mathau penodol o wastraff y cartref. Caiff  ‘Gwastraff y cartref’ ei ddiffinio yn Neddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, ac mae’n cynnwys gwastraff rhai adeiladau annomestig megis ysgolion, ysbytai a gwersyllfeydd.

Achosodd y Rheoliadau broblem i awdurdodau lleol a’r sector rheoli gwastraff preifat, am nad oedd modd i awdurdodau lleol godi tâl am gael gwared ar y gwastraff. Roedd y gost o gael gwared ar wastraff wedi codi’n sylweddol er cyflwyno’r Rheoliadau ac roeddent yn parhau i godi. O ganlyniad, cafwyd mwy o anhrefn yn y sector casglu gwastraff, a dechreuodd nifer fawr o adeiladau annomestig a oedd wedi’u cynnwys yn Atodlen 2 gymryd mantais o wasanaeth casglu gwastraff awdurdodau lleol yr oedd trethdalwyr yn talu amdano.

Gwahoddwyd pob awdurdod lleol i gyfranogi mewn astudiaeth o raddfa’r broblem. Gellir gweld adroddiad terfynol yr astudiaeth hon, “Understanding current management arrangements for Schedule 2 Waste” trwy fynd i’r ddolen isod.

Ewch i: Understanding current management arrangements for Schedule 2 Waste (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Daeth ein hymgynghoriad cyhoeddus ar adolygu’r Rheoliadau Gwastraff a Reolir 1992 i ben ar 14 Ionawr 2011. Gellir gweld yr ymgynghoriad sy’n cynnwys y papur ymgynghori, crynodeb o’r ymatebion ac ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad, trwy fynd i’r ddolen hon.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).

Ewch i: wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (dolen allanol, Saesneg yn unig)