Skip to content

Y Mesur Gwastraff 2010

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cafodd y Mesur Gwastraff ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 02 Tachwedd 2010 a chafwyd Cymeradwyaeth Frenhinol ar 15 Rhagfyr 2010.

Gosodwyd Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 22 Chwefror 2010.

Mae’r Mesur yn ymdrin â phedwar prif faes:

  • Mae’n ein cefnogi ni yn ein gwaith o gyflwyno tâl gorfodol ar gyfer bagiau siopa untro. Os na fydd y cytundeb gwirfoddol gyda manwerthwyr yn esgor ar ganlyniadau boddhaol, gall Gweinidogion Cymru, o dan y Mesur, sicrhau bod manwerthwyr yn pasio’r taliadau am fagiau siopa untro ymlaen i brosiectau amgylcheddol penodol. Daw’r tâl am fagiau siopa untro i rym yng ngwanwyn 2011.

  • Mae’n gosod targedau ar gyfer y ganran o wastraff i’w ailgylchu neu ei gompostio gan awdurdodau lleol.

  • Mae’n ein galluogi i wahardd neu gyfyngu ar rai mathau o wastraff o safleoedd tirlenwi yng Nghymru.

  • Mae’n ein galluogi i gyflwyno cynlluniau ffioedd a chodi tâl mewn perthynas â Chynlluniau Rheoli Gwastraff
    Safle yn y sector Adeiladu a Dymchwel.

Mae copïau o’r Mesur arfaethedig a’r Memorandwm Esboniadol ar gael isod.

Cafodd y Mesur Gwastraff ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 02 Tachwedd 2010 a chafwyd Cymeradwyaeth Frenhinol ar 15 Rhagfyr 2010.

Mae copïau o’r Memorandwm a'r Nodiadau Esboniadol ar gael isod.

Cewch ddarllen y Mesur ar y wefan Ddeddfwriaeth.

Ewch i: Mesur Gwastraff (Cymru) 2010: wefan Ddeddfwriaeth (dolen allanol)

Gellir cael gwybodaeth am y craffu ar y Mesur Gwastraff oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Ewch i: Mesur arfaethedig ynghylch Gwastraff (Cymru): Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dolen allanol)