Skip to content

Gweithredu edwyddorion rheoleiddo da: adolygiad o weithgareddau awdurdodau lloel yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Adolygodd y Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol (LBRO) y 22 awdurdod lleol yng Nghymru i gadarnhau eu bod yn gweithio’n unol ag egwyddorion rheoleiddio da cyn i ni allu trosglwyddo pwerau sancsiynau sifil i gynghorau sir a bwrdeistref sirol yng Nghymru.

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r dystiolaeth a gafodd ei hystyried a’i dadansoddi fesul thema. Mae hefyd yn cynnwys y casgliadau a’r argymhellion ar sail y dadansoddiad.

Gwelodd LBRO dystiolaeth dda fod awdurdodau lleol yng Nghymru yn gweithio’n unol ag egwyddorion rheoleiddio da. Mae hyn, ynghyd â’r cyfarwyddyd a fydd yn cael ei roi ar gyflwyno’r Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010, yn rhoi sicrwydd i ni y bydd gwasanaethau rheoleiddio’r awdurdodau lleol yn defnyddio’r pwerau sifil newydd yn unol â’r egwyddorion hyn.