Skip to content

Clytiau babanod / cewynnau

Ers dechrau’r 1980au bu clytiau papur yn gyfleus ar gyfer rhieni prysur. Mae dadl, fodd bynnag, ynglŷn ag a yw clytiau papur yn well ar gyfer yr amgylchedd na chlytiau golchadwy, ynteu’n waeth.

Mae astudiaeth cylch bywyd a gyhoeddwyd yn ddiweddar (Hydref 2008) yn ateb rhai o’r cwestiynau hyn, ac yn tystio sut y gall dewisiadau’r rhieni effeithio ar newid yn yr hinsawdd.

Yr Ymgyrch Clytiau Go Iawn

Mae’r ymgyrch Clytiau Go Iawn hon yn asio ag amcanion lleihau gwastraff a dysgu am wastraff YGC.

Mae hyrwyddo clytiau golchadwy hefyd yn hybu datblygu swyddi yng Nghymru, megis asiantau a golchdai clytiau, a chynhyrchu clytiau golchadwy. Mae’r gwaith hwn yn ategu rhwymedigaeth statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch datblygu cynaliadwy.

Rhagor o wybodaeth

Ceir rhagor o wybodaeth ar y gwefannau canlynol:

Ewch i: tudalennau 'arbed' Craff am Wastraff Cymru (dolen allanol)

Ewch i: wefan Cewynnau Go Iawn Cymru (dolen allanol)

Ewch i: wefan Cymru Gynhaliol (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Ewch i: wefan Cymdeithas Cynhyrchwyr Nwyddau Glanweithdra Amsugnol (AHPMA) (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Ewch i: wasanaeth gwybodaeth am gewynnau (dolen allanol, Saesneg yn unig)