Skip to content

Ansawdd dŵr ymdrochi

Dolenni perthnasol

Mae’r cyfnod yr ymgynghoriad wedi dod i ben. Mae crynodeb o’r ymatebion nawr ar gael.
Hoffem gael eich adborth am y polisi dŵr ymolchi.
Morlin

Mabwysiadwyd y Gyfarwyddeb Ewropeaidd bresennol ar Ddŵr Ymdrochi (73/160/EEC) ym 1976.

Mae’n ei gwneud hi’n ofynnol i Aelod-wladwriaethau glustnodi dyfroedd lle nad yw ymdrochi yn cael ei wahardd ac mae ymdrochi’n draddodiad sy’n cael ei arfer gan nifer fawr o ymdrochwyr. Unwaith y clustnodir y dyfroedd hyn, rhaid i samplau o’r dŵr ymdrochi gael eu profi’n rheolaidd yn ystod y tymor ymdrochi er mwyn dangos eu bod yn bodloni’r safonau bacteriolegol gorfodol o leiaf.

Mae’r tymor ymdrochi yng Nghymru yn ymestyn o 15 Mai i 30 Medi. Yn ystod y cyfnod hwn, mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn cymryd samplau o’r dŵr ymdrochi a glustnodwyd ac yn gwneud hynny bob wythnos.  

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cymharu canlyniadau samplau Asiantaeth yr Amgylchedd yn erbyn safonau gorfodol y Gyfarwyddeb a hefyd y safonau canllaw (sy’n fwy llym o lawer) ar gyfer mathau o facteria sy’n dangos bod carthion neu fathau arall o lygredd yn y dŵr. Yna, byddwn yn cyhoeddi’r canlyniadau a’u trosglwyddo i’r Comisiwn Ewropeaidd.

Mae croeso i chi wneud sylwadau ar ddŵr ymdrochi Cymru. Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein neu anfonwch eich sylwadau drwy e-bost i water@cymru.gsi.gov.uk.

Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd dŵr ymdrochi ar gael gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Ewch i: wefan Asiantaeth yr Amgylchedd (dolen allanol)