Skip to content

Traethau'r Faner Las

Dolenni perthnasol

Hoffem gael eich adborth am y polisi dŵr ymolchi.

Dyfernir y Faner Las i draethau sydd wedi bodloni nifer o feini prawf ansawdd amgylcheddol.

Mae’r Faner Las yn ddilys am flwyddyn yn unig. Gweinyddir y cynllun gan Cadwch Gymru’n Daclus.

Mae traethau’n cael eu beirniadu gan ddefnyddio 30 o feini prawf, sy’n cynnwys:

  • ansawdd y dŵr;
  • rheoli sbwriel yn dda;
  • gwybodaeth sy’n hawdd i’w ddarllen;
  • rheolaeth lem ar gŵn;
  • egwyddorion amgylcheddol cynaliadwy.
Bydd marinas wedi bodloni 16 o feini prawf ynghylch tir, a fydd yn cynnwys:
  • cyfleusterau gwastraff digonol;
  • darparu cyfarpar achub bywyd;
  • ymrwymiad i barchu a diogelu amgylchedd eu hardal.

Gellir gweld rhagor o fanylion am y cynllun, a rhestr o draethau a marinas y Faner Las ar wefan y Faner Las a gwefan Cadwch Gymru’n Daclus.

Ewch i: wefan Faner Las (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Ewch i: wefan Cadwch Gymru’n Daclus (dolen allanol)