Skip to content

Cynrychioli defnyddwyr dŵr

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Corff annibynnol yw'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr sy'n cynrychioli buddiannau cwsmeriaid yng Nghymru a Lloegr o ran dŵr a charthffosiaeth. Sefydlwyd Cyngor Defnyddwyr Dŵr ar 1 Hydref 2009.

Cyfrifoldebau

Mae Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn gyfrifol am:

  • hyrwyddo buddiannau a hawliau cwsmeriaid
  • ymchwilio i gwynion
  • rhoi cyngor a gwybodaeth am y cwmnïau dŵr/dŵr a charthffosiaeth canlynol:
    • Dŵr Cymru Welsh Water;
    • Dee Valley Water plc;
    • Albion Water Ltd.

Mae Cyngor Defnyddwyr Dŵr hefyd yn ymdrin â chwynion defnyddwyr os ydynt wedi ceisio datrys problem gyda’u cwmnïau dŵr a charthffosiaeth ac wedi methu.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Defnyddwyr Dŵr.

Ewch i: wefan Cyngor Defnyddwyr Dŵr (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Gweinidogion Cymru a Chyngor Defnyddwyr Dŵr  

Cytundeb rhwng dau gorff neu ragor yw Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.

Mae’r cytundeb hwn rhwng Gweinidogion Cymru a Chyngor Defnyddwyr Dŵr yn gyfrwng i hyrwyddo cydweithio, cyfnewid gwybodaeth ac ymdrin â materion sy’n effeithio ar y ddau sefydliad â chysondeb.