Skip to content

Parthau Perygl Nitradau

Dolenni perthnasol

Amcan y gofion hyn yw llehau'r achosion o lygu afonydd gan nitradau o ffermydd a'u rhwystro rhag digwydd eto.

Ystyr Parth Perygl Nitradau yw tir sy’n draenio i ddŵr daear neu ddŵr wyneb sydd yn cynnwys llawer o nitradau ar hyn o bryd, neu a allai gynnwys llawer o nitradau os na chaiff y camau priodol eu cymryd.

Diweddarwyd y Parthau Perygl Nitradau yng Nghymru yn 2008. Ar hyn o bryd mae tua 2.3% o Gymru yn Barth Perygl Nitradau.

Bwriedir i Gyfarwyddeb Nitradau y Comisiwn Ewropeaidd (91/676/EEC) leihau llygredd dŵr a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol ac atal unrhyw lygredd pellach. Caiff y Gyfarwyddeb ei gweithredu yng Nghymru drwy gyfraith ddomestig, sef Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008.

Mae gofyn i Aelod-wladwriaethau adolygu’r ffordd y maent yn rhoi’r Gyfarwyddeb ar waith bob pedair blynedd. Defnyddir canlyniad yr adolygiad i ddiwygio’r Parthau Perygl Nitradau yn briodol a/neu’r mesurau yn y Rhaglen Weithredu.